Sophie Scholl
Roedd Sophie Magdalena Scholl (9 Mai 1921 - 22 Chwefror 1943) yn ymgyrchydd gwleidyddol gwrth Natsïaidd a oedd yn weithredol o fewn y grŵp ymgyrchu di drais Weiße Rose (Y Rhosyn Gwyn) yn yr Almaen Natsïaidd.[1]
Cafodd ei dyfarnu'n euog o uchel frad ar ôl cael ei ddarganfod yn dosbarthu taflenni gwrthryfel ym Mhrifysgol Munich gyda'i brawd, Hans. O ganlyniad, fe'u dienyddwyd gan gilotîn. Ers y 1970au, mae Scholl wedi cael ei goffáu'n helaeth am ei gwaith gwrthsefyll Natsïaidd[2][3].
Bywyd Cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Scholl yn Forchtenberg am Kocher, Baden-Württemberg yn ferch i Robert Scholl, maer y dref ar adeg ei genedigaeth, a Magdelena (née Müller) ei wraig. Roedd Robert Scholl yn wleidydd rhyddfrydol ei ddaliadau ac yn feirniad o'r Natsïaid.
Roedd Sophie yn bedwaredd o chwech o blant:
- Inge Scholl (Aicher) (1917–1998)
- Hans Scholl (1918–1943), cafodd ei ddienyddio gyda'i chwaer
- Elisabeth Scholl (Hartnagel) (ganwyd 1920), priododd gariad hirdymor Sophie, Fritz Hartnagel
- Sophie Scholl (1921–1943)
- Werner Scholl (1922-1944) wedi mynd ar goll wrth wasanaethu yn y fyddin; rhagdybir ei fod wedi marw ym mis Mehefin 1944
- Thilde Scholl (1925–1926)
Addysg
[golygu | golygu cod]Ym 1930, symudodd y teulu i Ludwigsburg ac wedyn i Ulm dwy flynedd yn niweddarach, lle fu ei thad yn gweithio fel ymgynghorydd busnes. Mynychodd ysgol uwchradd i ferched yn Ulm gan ymuno â Bund Deutscher Mädel (Urdd Morwynion yr Almaen) - adain fenywod mudiad ieuenctid y Natsïaid. Yn fuan pylodd ei brwdfrydedd dros achos yr urdd a daeth yn wrthwynebydd i syniadaeth Natsïaidd.
Ymadawodd a'r ysgol ym 1940 gan gael swydd fel athrawes ysgol feithrin. Roedd hi'n gobeithio byddai cyfnod yn gweithio fel athrawes meithrin yn ei hesgusodi rhag gorfod gwneud Reichsarbeitsdienst (gwasanaeth gwladol gorfodol), a oedd yn un o hanfodion cael mynediad i brifysgol. Profodd ei obaith yn ofer ac ym 1941 cychwynnodd cyfnod o chwe mis o wasanaeth rhyfel cynorthwyol.
Wedi ei chwe mis o wasanaeth gwladol ymunodd â Phrifysgol München ym 1942 i astudio bywydeg ac athroniaeth. Roedd Hans, ei frawd, eisoes yn yr un brifysgol yn astudio meddygaeth. Daeth yn rhan o griw o ffrindiau, a oedd yn cynnwys Hans, oedd yn rhannu diddordebau llenyddol, celfyddydol a chymdeithasol. Datblygodd y criw i fod yn grŵp o bobl oedd yn feirniadol o'r Natsïaid.
Yn München, cyfarfu Scholl â nifer o artistiaid, awduron ac athronwyr, yn enwedig Carl Muth a Theodor Haecker, a oedd yn gysylltiadau pwysig iddi. Y cwestiwn yr oeddent yn ei drafod fwyaf oedd sut dylai unigolyn weithredu o dan unbennaeth. Yn ystod gwyliau'r haf 1942, bu'n rhaid i Scholl cyflawni gwasanaeth rhyfel mewn ffatri fetelegol yn Ulm. Ar yr un pryd, roedd ei thad yn y carchar gan iddo wneud sylw beirniadol i gydweithiwr am Hitler.
Y Rhosyn Gwyn
[golygu | golygu cod]Daeth Scholl yn ymwybodol o fodolaeth Mudiad y Rhosyn Gwyn pan welodd un o'u taflenni yn y brifysgol. O ddeall bod ei brawd yn rhannol gyfrifol am y daflen dechreuodd hi i weithredu yn y mudiad hefyd. Roedd y grŵp wedi derbyn adroddiadau gan Fritz Hartnagel, cariad Sophie. Roedd Hartnagel yn gwasanaethu gyda byddin yr Almaen ar y ffrynt dwyreiniol. Roedd ei adroddiadau yn sôn am erchyllterau'r Almaen yn saethu carcharorion rhyfel a'r ymdrechion at ddifodiant yr Iddewon.
Yn wreiddiol roedd yr aelodau craidd yn cynnwys Hans Scholl (brawd Sophie), Willi Graf, Christoph Probst ac Alexander Schmorell (cafodd Schmorell ei ganoneiddio gan yr Eglwys Uniongred Rwsia yn 2012). Roedd Hans yn awyddus i'w gadw ei weithgaredd oddi wrth Sophie. Ond unwaith iddi ganfod bodolaeth y grŵp a rhan ei brawd ynddi roedd yn awyddus i ymuno.
Creodd y grŵp tri phamffled newydd a'u dosbarthu dros gyfnod yr haf 1942. Gan ddefnyddio dadleuon Beiblaidd ac athronyddol roedd y pamffledi yn annog Almaenwyr i wrthsefyll llywodraeth y Natsïaid trwy ddulliau di drais.
Dienyddiad
[golygu | golygu cod]Cafodd Sophie a gweddill aelodau'r Rhosyn gwyn eu harestio am ddosbarthu chweched daflen y mudiad yn y Brifysgol ar 18fed Chwefror 1943. Cawsant eu dwyn o flaen llys ar 22 Chwefror 1943. Cafwyd Sophie, Hans a'u cyfaill Christoph Probst yn euog o frad a'u dedfrydu i farwolaeth. Cawsant eu dienyddio gan gilotîn yn hwyrach ar yr un diwrnod[4]. Cawsant eu claddu yn y Perlacher Friedhof, ger carchar Stadelheim, München.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Biography on line - Sophie Scholl adalwyd 25 Chwefror 2018
- ↑ The Times Chwefror 23 2018 Tributes to White Rose students Sophie Scholl, Hans Scholl and Christoph Probst, guillotined by Nazis adalwyd 23 Chwefror 2018
- ↑ The Christian Institute 23 Chwefror 2018 Hans and Sophie Scholl: The ultimate sacrifice in Nazi Germany adalwyd 25 Chwefror 2018
- ↑ Timeline - Beheaded by the Nazis at age 21, Sophie Scholl died fighting against white supremacy Archifwyd 2018-05-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd 25 Chwefror 2018