Neidio i'r cynnwys

Sgwrs:Bual

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Eilrif/cyfnifer-fyseddog

[golygu cod]

Dw i wedi mynd am 'Carnolyn eilrif-fyseddog', gan mai dyna'r term ar yr erthygl Carnolyn, Mochyn a Cetartiodactyla, ond fedra i ddim cofio ble ges y term. Croeso i ti eu newid os yw'r gair "cyfnifer-fyseddog" a ddefnyddi yn fwy safonol. Dw i'n meddwl fod y gair 'eilrif' yn fwy cyffredin na 'cyfnifer' yn y byd addysg. Geir. yr Academi: 'odd or even odrif neu eilrif'. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:26, 6 Chwefror 2017 (UTC)[ateb]

Bual/Ychen wyllt

[golygu cod]

Helo,

Yn ôl Geiriadur yr Academi, bual neu ychen wyllt yw bison yn Gymraeg. Pam dewisiwyd 'beison'? Byddai defnyddio 'bual' yn gyson â llenyddiaeth Gymraeg sydd wastad wedi defnyddio'r term hwnnw ar ei gyfer. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan 2a00:23c0:c235:9f00:e575:c82e:e720:a4bc (sgwrscyfraniadau) 18:06, 6 Chwefror 2017

Wedi symud i bual. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 22:54, 2 Mehefin 2017 (UTC)[ateb]