Selwyn Iolen
Selwyn Iolen | |
---|---|
Ffugenw | Selwyn Iolen |
Ganwyd | 1928 Bethel |
Bu farw | 10 Awst 2011 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, athro |
Swydd | pennaeth |
Bardd, athro ac eisteddfodwr brwd oedd Selwyn Griffith (enw barddol: y Prifardd Selwyn Iolen; 1928 - 10 Awst 2011). Ef oedd yr Archdderwydd rhwng 2004 a 2008.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn fab i chwarelwr, fe'i ganed ac fe'i maged ym Methel, Gwynedd. Mynychodd hen Ysgol y Sir, Caernarfon a bu'n byw yn yr ardal drwy gydol ei fywyd. Bu'n gweithio i Gyngor Dosbarth Gwyrfai am ddeunaw mlynedd cyn mynd i'r Coleg Normal, Bangor i wneud cwrs ymarfer dysgu. Bu'n athro yn Ysgol Cadnant Conwy, Ysgol Penybryn Bethesda, Ysgol Llanberis, ac Ysgol Dolbadarn, cyn mynd yn Bennaeth Ysgol Gynradd Rhiwlas.[1]
Ei enw tu allan i'r Orsedd oedd Selwyn Griffith. Mae'n debyg ei fod yn pethyn o bell i'r Prifardd W. J. Gruffydd, hefyd o Fethel, Bardd y Goron yn Eisteddfod Llundain 1909.[2]
O dan yr enw Selwyn Griffith y cyhoeddodd ei res o lyfrau, llyfrau barddoniaeth i blant yn bennaf. Defnyddiwyd ei gerddi yn helaeth fel darnau adrodd mewn eisteddfodau dros gyfnod o ddegawdau. Bu'n glerc Cyngor Cymuned Llanddeiniolen am 46 o flynyddoedd ac roedd yn ysgrifennu colofn fisol i bapur bro Eco'r Wyddfa ers ei gychwyn.
Prifardd ac Eisteddfodwr
[golygu | golygu cod]Fe'i derbyniwyd i'r Orsedd ym 1973. Enillodd Goron Eisteddfod Dyffryn Conwy ym 1989, gyda dilyniant o gerddi ar y testun Arwyr. Y tri beirniad oedd Bedwyr Lewis Jones, Nesta Wyn Jones a John Gruffydd Jones. Enillodd hefyd dros ddeugain o gadeiriau a choronau mewn eisteddfodau bach ac eisteddfodau taleithiol ledled Cymru.[3]
Bu'n feirniad adrodd a llenyddiaeth mewn eisteddfodau am ddegawddau, ac roedd yn adnabyddus fel eisteddfodwr brwd ac fel cefnogwr eisteddfodau bach, fel un o'r gynulleidfa pan nad oedd yn cymryd rhan fwy gweithgar.
Archdderwydd
[golygu | golygu cod]Bu'n Archdderwydd rhwng 2004 a 2008, cyfnod digon diddorol i'r Eisteddfod am wahanol resymau. Tua'r adeg hon y dechreuwyd gwerthu cwrw ar y Maes, cam dadleuol tu hwnt ar y pryd. Wrth i Selwyn Iolen gymryd yr awenau y peidiodd yr Orsedd â defnyddio cerrig go iawn fel Cerrig yr Orsedd ac y dechreuwyd defnyddio rhai plastig, mesur dadleuol arall a oedd yn gam tuag at dorri costau'r Eisteddfod. [4]
Achosodd ychydig o gynnwrf ei hun pan gafodd ei ethol yn Archdderwydd, gan iddo wrthod gwneud cyfweliadau drwy gyfrwng y Saesneg ar y Maes. Roedd o'r farn bod y Rheol Gymraeg yn gwahardd hynny a'i bod yn hanfodol bod yr Eisteddfod yn parhau yn ŵyl uniaith Gymraeg.[5]
Bu straeon yn y newyddion hefyd pan dderbyniwyd Richard Brunstrom ('Y Prif Gopyn') i'r Orsedd. Fel Prif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd, roedd yntau wedi gwneud enw iddo'i hun fel un â pholisi llym o ran dirwyo gor-yrwyr. Bu sôn yn y wasg adeg derbyn y Prif Gopyn i'r Orsedd bod yr Archdderwydd ei hun wedi ei ddal yn gor-yrru wrth ruthro adre i wylio diwedd gêm bêl-droed.[6]
Er i Dic yr Hendre gymryd yr awenau fel Archdderwydd yn 2008, gwasanaethodd Selwyn Iolen fel Archdderwydd yn Eisteddfod y Bala 2009, oherwydd gwaeledd Dic yr Hendre. Anfonodd gyfarchion teimladwy at yr Archdderwydd yn ei waeledd o lwyfan y Brifwyl yn ystod Defod y Cadeirio. Ef hefyd arweiniodd y ddefod i urddo Jim Parc Nest yn Archdderwydd yn ystod Defod Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam yn 2010.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn briod â Myra, ac roedd ganddynt un mab, Euron. Roedd Selwyn Iolen yn gefnogwr pêl-droed brwd. Chwaraeai fel gôl-geidwad yn ei ieuenctid, ac yn ddiweddarach, byddai'n sicrhau ei fod yn ei ddillad gorau i wylio gêm derfynol cwpan FA Lloegr.
Ag yntau'n Ddirprwy Archdderwydd erbyn hynny, methodd â bod yn Eisteddfod Wrecsam 2011 oherwydd gwaeledd; anfonwyd cyfarchion ato o Ddefod y Cadeirio gan yr Archdderwydd Jim Parc Nest, a addawodd alw heibio i'w weld yn ei gartref, Crud-yr-Awen ym Mhenisarwaun fore trannoeth. Bu farw Selwyn Iolen yn ei gartref ar 10 Awst 2011, yn 83 oed.[7]
Gweithiau
[golygu | golygu cod]Fel Selwyn Griffith:
- C'nafron a Cherddi Eraill (1979)
- Llwyfan y Plant (1986)
- Pawb yn Barod? (1990)
- Dewch i Adrodd (1992)
- Dewch i Adrodd Eto (1992)
- Mae Gen i Gân, gyda Leah Owen (1995)
- A Dyma'r Ola' (1995)
- Nesa' i Adrodd ... (2000)
Fel Selwyn Iolen:
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Selwyn Griffith, Archdderwydd Etholedig Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-04-25. Cyrchwyd 2007-11-12.
- ↑ 'Selwyn Iolen: yn falch o fod yn Archdderwydd cyffredin' BBC Cymru'r Byd, 2005
- ↑ 'Archdderwydd newydd i Gymru' Newyddion y BBC, 27 Mehefin 2005
- ↑ 'Meini'r Orsedd ar newydd wedd' Newyddion y BBC, 16 Rhagfyr 2004
- ↑ 'Archdderwydd: 'Dim Saesneg' ' Newyddion y BBC, 1 Awst 2005
- ↑ 'Police chief joins druids' informationliberaion, 12 Awst 2006
- ↑ 'Archdderwydd yn talu teyrnged i Selwyn Griffith' golwg360, 10 Awst 2011