Schiehallion
Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Yr Alban |
Uwch y môr | 1,083 metr |
Cyfesurynnau | 56.666933°N 4.100229°W |
Cod OS | NN7138654760 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 716 metr |
Rhiant gopa | Ben Lawers |
Cadwyn fynydd | Mynyddoedd y Grampians |
Mae Schiehallion (1083m / 3,547') yn fynydd Munro ger Loch Rannoch yng nghanol Ucheldiroedd yr Alban ac yn fynydd gosgeiddig iawn, un o'r rhai harddaf yn yr Ucheldiroedd. Mae'n codi o'r coedwigoedd a'r rhosdiroedd tua 5 km i'r dwyrain o bentref Kinloch Rannoch ar ben dwyreiniol Loch Rannoch ei hun. Craig risial yw'r rhan fwyaf o'r creigiau yn y mynydd. Ei gymydog agosaf yw Carn Mairg. Mae'r copa tua dwy fetr yn is na'r Wyddfa.
Y ffordd hawsaf i'w ddringo yw trwy ddilyn y llwybr trwy Goedwig Ddu Rannoch yn ymyl Kinloch Rannoch.
Am fap yn dangos lleoliad Schiehallion, gweler Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 3,000' (y Munros) (Adran 2).
Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Munro, Murdo a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Ailfesurwyd uchder y copa hwn ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr o gopaon yr Alban dros 610 metr
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 3,000' (y Munros)
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- ar wefan Streetmap Archifwyd 2016-03-06 yn y Peiriant Wayback
- ar wefan Get-a-map[dolen farw]