Ruth Price
Ruth Price | |
---|---|
Ganwyd | 1924 Mathri |
Bu farw | 23 Chwefror 2019 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | athro, cynhyrchydd teledu, cynhyrchydd radio |
Cyflogwr |
Cynhyrchydd teledu o Gymraes oedd Ruth Price (1924 – 23 Chwefror 2019).[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Fe'i ganwyd ym Mathri yn Sir Benfro, a cychwynnodd ei gyrfa fel athrawes. Daeth yn brifathrawes yr ysgol Gymraeg gyntaf ym Mhontarddulais. Bu farw yng Nghaerdydd yn 95 oed.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ym 1961, fe'i denwyd i'r BBC gan Sam Jones a daeth yn gynhyrchydd rhaglenni radio i blant ym Mangor. Roedd hi'n gyfrifol am Awr y Plant a creodd y gyfres gerddoriaeth boblogaidd i blant, Clywch, Clywch ar fore Sadwrn.
Yn 1963, symudodd wedyn i dîm adloniant ysgafn Cymraeg y BBC yng Nghaerdydd, o dan y pennaeth Meredydd Evans. Roedd yn gynhyrchydd y rhaglen gerddoriaeth gwerin Hob y Deri Dando. Roedd hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu y rhaglen gerddoriaeth bop cyntaf yn y Gymraeg, Disc a Dawn lle ymddangosodd Max Boyce a Mary Hopkin am y tro cyntaf ar deledu. Yn ôl Hywel Gwynfryn roedd Ruth hefyd yn gyfrifol am ddarganfod Meic Stevens, a oedd wedi bod yn canu yn Llundain. Byddai Ruth yn comisiynu cyfieithiadau o ganeuon Saesneg poblogaidd i'w perfformio yn Gymraeg ar y sioe.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Teyrngedau i’r cynhyrchydd teledu, Ruth Price, sydd wedi marw yn 95 oed , Golwg360, 25 Chwefror 2019.
- ↑ Y cynhyrchydd arloesol Ruth Price wedi marw yn 95 oed , BBC Cymru Fyw, 24 Chwefror 2019. Cyrchwyd ar 25 Chwefror 2019.