Richard A. Jones (ffisegwr)
Richard Jones | |
---|---|
Ganwyd | Richard Anthony Lewis Jones 1961 (63–64 oed) Stamford, Swydd Lincoln |
Meysydd | Ffiseg Mater meddal Polisi gwyddoniaeth |
Sefydliadau | |
Alma mater | Prifysgol Caergrwant (BA, PhD) |
Thesis | Mutual diffusion in miscible polymer blends (1987) |
Enwog am | Mater Meddal Cyddwysiedig |
Gwefan | |
softmachines.org |
Ffisegydd o Gymru yw Richard Anthony Lewis Jones FRS[1] (ganwyd 1961)[2][3]. Bu'n athro ym Mhrifysgol Sheffield hyd 2020 cyn symud i Brifysgol Manceinion, ble mae hyd heddiw'n Athro mewn Ffiseg ac yn Rhag Is-ganghellor.[4][5][6] Treuliodd rhan o'i blentyndod yn byw ym Mhwllheli gyda'i fam a'i rhieni, ym 1967.[7]
Addysg
[golygu | golygu cod]Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Denstone[3] a Choleg y Santes Catrin, Caergrawnt, ble y safodd Tripos mewn Gwyddorau Naturiol a derbyn Baglor mewn Celfyddydau ym maes Ffiseg ym 1983.[3] Parhaodd i astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt, ble y derbyniodd doethuriaeth mewn trylediad mewn cyfuniadau polymer.[8]
Gyrfa ac ymchwil
[golygu | golygu cod]Wedi cyfnod o ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Cornell, fe'i benodwyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caergrawnt yn Labordy Cavendish ac ym 1998 fe'i penodwyd yn athro ym Mhrifysgol Sheffield.[9]
Maes ymchwil Jones yw ffiseg polymerau a bio-polymerau ar arwynebau a rhyngwynebau, gyda goblygiadau ar gyfuniadau polymer.[1] Arloesodd yn nefnydd o ddulliau pelydr ïon i astudio arwahanu un gydran i wyneb cyfuniad. Yn ei dro, arweiniodd hyn at arbrofion ar ledu tonnau capilari rhyngwynebau, gan ddefnyddio adlewyrchedd niwtronau.[1] Mae ei arbrofion ar drwch-dibyniaeth trawsnewidiadau gwydr mewn ffilmiau tenau, wedi ysgogi maes ymchwil newydd. Ymestyn ei astudiaethau i ddadnatureiddio proteinau ar ryngwynebau, gan ddangos sut mae hydroffiligrwydd arwyneb yn cael effaith gref, gyda goblygiadau ar gyfer problemau yn amrywio o faeddu i afiechyd.
Yn 2018, yr oedd yn gyd-awdur The Biomedical Bubble[10] gyda James Wilsdon [1], a oedd yn dadlau bod angen mwy o amrywiaeth o flaenoriaethau, gwleidyddiaeth, lleoedd a phobl ar Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig (UKRI).[11][12][13][14][15]
Yn 2020, symudodd i Fanceinion.
Gwobrau ac anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Etholwyd Jones yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS) yn 2006 am "gyfraniadau sylweddol i wella gwybodaeth naturiol".
Yn 2008 enillodd Fedal a Gwobr David Tabor y Sefydliad Ffiseg.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Richard Jones". royalsociety.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 30 Mawrth 2022.
- ↑ "Library of Congress LCCN Permalink n98023969". lccn.loc.gov. Cyrchwyd 2022-03-30.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "Jones, Prof. Richard Anthony Lewis, (born 7 March 1961), Professor of Materials Physics and Innovation Policy, University of Manchester, since 2020". WHO'S WHO & WHO WAS WHO (yn Saesneg). doi:10.1093/ww/9780199540884.013.u151439. Cyrchwyd 2022-03-30.
- ↑ "Richard A Jones". scholar.google.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-21. Cyrchwyd 2022-03-30.
- ↑ "Scopus preview - Jones, Richard A.L. - Author details - Scopus". www.scopus.com. Cyrchwyd 2022-03-30.
- ↑ "Soft Machines – Some personal views on nanotechnology, science and science policy from Richard Jones" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-30.
- ↑ Jones, Richard (2015-12-16). "Land of my Fathers (and they can keep it)". Soft Machines. Cyrchwyd 2022-04-01.
- ↑ Jones, R. a. L. (1987), Mutual diffusion in miscible polymer blends, University of Cambridge, https://ethos.bl.uk/OrderDetails.do?uin=uk.bl.ethos.233254, adalwyd 2022-03-30
- ↑ says, Jennifer Sharma. "About Richard Jones – Soft Machines" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-30.
- ↑ "The Biomedical Bubble". nesta (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-30.
- ↑ Lancet, The (2018-07-21). "UK life science research: time to burst the biomedical bubble" (yn English). The Lancet 392 (10143): 187. doi:10.1016/S0140-6736(18)31609-X. ISSN 0140-6736. PMID 30043738. https://www.thelancet.com/journals/lancet/article/PIIS0140-6736(18)31609-X/abstract.
- ↑ Ahuja, Anjana (2018-07-16). "Britain must stop inflating the biomedical bubble". Financial Times. Cyrchwyd 2022-03-30.
- ↑ "It's time to burst the biomedical bubble in UK research". the Guardian (yn Saesneg). 2018-07-12. Cyrchwyd 2022-03-30.
- ↑ "Rethinking the life sciences strategy". Wonkhe (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-30.
- ↑ "MRC Insight blog". www.ukri.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-30.