Rhyfel Cartref Cyntaf y Traeth Ifori
Rhyfel Cartref y Traeth Ifori | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwrthryfelwyr arfog yng nghefn tryc bychan | ||||||||
| ||||||||
Cydryfelwyr | ||||||||
Y Traeth Ifori Hurfilwyr Liberiaidd Congrès Panafricain des Jeunes Patriotes (milisia) |
Forces Nouvelles (gwrthryfelwyr) | Byddin Ffrainc Heddgeidwaid y Cenhedloedd Unedig | ||||||
Arweinwyr | ||||||||
Laurent Gbagbo | Guillaume Soro | Jacques Chirac | ||||||
Anafusion a cholledion | ||||||||
200+ o filwyr llywodraethol 100+ o filwyr milisia 1200+ o sifiliaid |
300+ o wrthryfelwyr | 13 o filwyr Ffrengig 1 heddgeidwad y CU |
Rhyfel cartref a ffrwydrodd o ganlyniad i ansefydlogrwydd gwleidyddol, tensiynau ethnig a dirywiad economaidd yn y Traeth Ifori yn nechrau'r 2000au oedd Rhyfel Cartref Cyntaf y Traeth Ifori.
Enillodd y Traeth Ifori ei hannibyniaeth ar Ffrainc ym 1960, ac yn ystod arlywyddiaeth Félix Houphouët-Boigny datblygodd yn un o wledydd cyfoethocaf a sefydlocaf Affrica. Yn sgil marwolaeth Houphouët-Boigny ym 1993, cychwynnodd y frwydr wleidyddol dros rym yn y wlad, yn bennaf rhwng Henri Konan Bédié (arlywydd o 1993 i 1999), Alassane Ouattara (prif weinidog o 1990 i 1993), y Cadfridog Robert Guéï, a Laurent Gbagbo. Gwaethygodd yr ansefydlogrwydd yn ystod arlywyddiaeth Gbagbo, a ddaeth i rym yn 2000, ac ar 19 Medi 2002 lansiwyd coup d'état yn ei erbyn. Methiant a fu'r ymgais, a lladdwyd y cyn-arlywydd Guéï. Echdorrodd rhyfel cartref rhwng y gwrthryfelwyr, a reolai gogledd y wlad, a'r llywodraeth gyda'i chadarnle yn y de. Ffurfiwyd cylchfa ragod rhwng y ddwy ochr gan luoedd Ffrainc ac ECOWAS i geisio datrys y sefyllfa. Er i'r llywodraeth a'r gwrthryfelwyr gytuno i heddwch yn Ionawr 2003, parhaodd y tensiynau a ni daethpwyd i delerau ynghylch y pynciau llosg a achosodd y gwrthdaro yn y lle cyntaf. Cynyddodd gelyniaeth rhwng y brwydrwyr a chododd cyrchoedd ar luoedd tramor a sifiliaid. Sefydlwyd Ymgyrch y Cenhedloedd Unedig yn y Traeth Ifori (UNOCI) yn Ebrill 2004 i geisio cadw'r heddwch.
Yn Nhachwedd 2004, torrodd y llywodraeth y cadoediad drwy fomio ardaloedd y gwrthryfelwyr yn y gogledd. Lladdwyd lluoedd Ffrengig mewn un o'r cyrchoedd, ac ymatebodd Ffrainc drwy ddinistrio holl awyrennau'r lluoedd arfog Iforaidd. Ysgogwyd gwrthdystiadau a therfysgoedd yn erbyn y Ffrancod, gan waethygu'r sefyllfa, a chyhoeddodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig waharddiad ar fewnforio arfau i'r Traeth Ifori.
Cynhaliwyd rhagor o drafodaethau heddwch yn Ne Affrica yn Ebrill 2005, a chytunwyd i gadoediad newydd. Fodd bynnag, ni gweithredai'r llywodraeth delerau'r cytundeb, ac aildaniodd yr ymladd. Gohiriwyd yr etholiadau a ddisgwylid yn Hydref 2005, ac estynnwyd tymor swydd Gbagbo yn yr arlywyddiaeth. Arwyddwyd cytundeb i rannu grym gan y ddwy ochr ym Mwrcina Ffaso ym Mawrth 2007, a ffurfiwyd llywodraeth drawsnewidiol gyda Gbagbo o hyd yn arlywydd a Guillaume Soro, un o arweinwyr y gwrthryfelwyr, yn brif weinidog.
Dilynwyd y gwrthdaro hwn gan Ail Ryfel Cartref y Traeth Ifori yn 2010–11.