Ranitidin
Ranitidin | |
Enghraifft o'r canlynol | par o enantiomerau |
---|---|
Math | furans, amine trydyddol |
Màs | 314.141 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₁₃h₂₂n₄o₃s |
Clefydau i'w trin | Clefyd adlif gastro-oesoffagaidd, diffyg traul, clefyd y stumog, llid y stumog, torgest fylchog, wlser gastrig |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia b1, categori beichiogrwydd unol daleithiau america b |
Yn cynnwys | ocsigen, carbon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae ranitidin, a werthir o dan yr enw masnachol Zantac, ymysg eraill, yn feddyginiaeth sy'n lleihau cynhyrchu asid yn y stumog.[1]
Defnydd
[golygu | golygu cod]Fe'i defnyddir yn gyffredin wrth drin wlserau peptig, clefyd adlif gastroesoffageal, a syndrom Zollinger-Ellison. Mae rhywfaint o dystiolaeth ei fod hefyd o fudd wrth drin llosg dynad (hives). Gellir ei weini trwy'r genau, trwy chwistrelliad i mewn i gyhyr, neu drwy chwistrelliad i mewn i wythïen.[2]
Sgil effeithiau
[golygu | golygu cod]Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys cur pen a phoen neu losgi o'i weini drwy bigiad. Gall sgil effeithiau difrifol gynnwys problemau'r afu, cyfradd calon araf, niwmonia, a'r potensial i guddio symptomau presenoldeb canser y stumog. Mae hefyd wedi'i gysylltu â risg gynyddol o glefyd Clostridium difficile. Yn gyffredinol mae'n ddiogel yn ystod beichiogrwydd. Mae ranitidine yn gwrthweithydd derbynyddion histamin H2 sy'n gweithio trwy atal histaminau a thrwy hynny yn lleihau'r asid sy'n cael ei ryddhau gan gelloedd y stumog[3].
Hanes
[golygu | golygu cod]Darganfuwyd ranitidin ym 1976 a daeth i ddefnydd masnachol ym 1981. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Mae ar gael fel meddyginiaeth generig.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Ranatadine". NICE / BNF. Cyrchwyd 2018/03/30. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Ranitidine: Uses, Dosage and Side Effects - Drugs.com". Drugs.com. Cyrchwyd 2018/03/30. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Ranitidine - Side Effects, Dosage, Uses, and More - Healthline". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-20. Cyrchwyd 2018/03/30. Check date values in:
|access-date=
(help)
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |