Port Talbot
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 37,276 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.58°N 3.81°W |
Cod SYG | W04001027 |
Cod OS | SS755895 |
Cod post | SA12, SA13 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | David Rees (Llafur) |
AS/au y DU | Stephen Kinnock (Llafur) |
Tref ddiwydiannol a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Port Talbot.[1][2] Saif ar lan Afon Afan ar ochr dwyreiniol Bae Abertawe. Mae Caerdydd 44.9 km i ffwrdd o Bort Talbot ac mae Llundain yn 256.1 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe, sy'n 12 km i ffwrdd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan David Rees (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Stephen Kinnock (Llafur).[4]
Hanes
[golygu | golygu cod]Cnewyllyn y dref fodern yw'r hen dref Aberafan sydd ar ochr orllewinol Afon Afan, yn ogystal â phentrefi hynafol eraill fel Baglan a Groes. Crewyd Port Talbot ei hun ym 1840 gydag agoriad y dociau newydd ar ochr ddwyreiniol yr afon gan y teulu Talbot o Swydd Wilton a oedd yn berchen ar Abaty Margam ar y pryd. Mae'r dref fodern hefyd yn cynnwys ardaloedd Taibach, Traethmelyn, Margam a Felindre. Felly Port Talbot yw enw rhan canolog o'r dref a hefyd enw'r dref gyfan. Mae llawer yn defnyddio Aberafan fel enw Cymraeg Port Talbot er yr enw safonol yw Porth Talbot. Enw amgen yw Porth Afan.
Mae'r dref wedi bod yn enwog am ei dociau a gweithio metel, yn enwedig y gwaith dur enfawr sydd ar ochr ddwyreiniol y dref.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Rob Brydon, actor a digrifwr a fagwyd ym Maglan, Port Talbot
- Richard Burton, actor
- Rhod Gilbert, digrifwr sy'n byw ym Mhort Talbot
- Anthony Hopkins, actor
- Dic Penderyn, merthyr
- Paul Potts, canwr
- Michael Sheen, actor a anwyd yng Nghasnewydd ond a fagwyd ym Mhort Talbot
Gefeilldrefi Port Talbot
[golygu | golygu cod]Gwlad | Dinas |
---|---|
Ffrainc | Bagneux |
Yr Almaen | Heilbronn |
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 23 Rhagfyr 2021
- ↑ "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-23.
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Trefi
Aberafan · Castell-nedd · Glyn-nedd · Llansawel · Pontardawe · Port Talbot
Pentrefi
Aberdulais · Abergwynfi · Alltwen · Baglan · Banwen · Bedd y Cawr · Blaendulais · Blaen-gwrach · Blaengwynfi · Bryn · Cil-ffriw · Cilmaengwyn · Cilybebyll · Y Clun · Y Creunant · Cwmafan · Cymer · Cwm-gors · Cwmllynfell · Dyffryn Cellwen · Efail-fach · Glyncorrwg · Godre'r-graig · Gwauncaegurwen · Llandarcy · Llangatwg · Llan-giwg · Margam · Melin-cwrt · Morfa Glas · Onllwyn · Pentreclwydau · Pontrhydyfen · Pwll-y-glaw · Resolfen · Rheola · Rhos · Rhyd-y-fro · Sgiwen · Tai-bach · Ton-mawr · Tonna · Trebannws · Ynysmeudwy · Ystalyfera