Pont Britannia
Math | pont bwa dec, pont ddeulawr, pont ddur, pont reilffordd, pont ffordd, pont diwb |
---|---|
Agoriad swyddogol | 5 Mawrth 1850 |
Cysylltir gyda | John Evans |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru |
Sir | Pentir, Llanfair Pwllgwyngyll |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 0 metr |
Cyfesurynnau | 53.2163°N 4.1858°W |
Hyd | 460 metr |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Pont sydd yn croesi Afon Menai gan gysylltu Ynys Môn â’r tir mawr Cymru yw Pont Britannia. Mae'n gludo’r rheilffordd a’r A55 dros y dŵr. Ei hnw cywir yw Pont Llanfair. Daw’r enw o bentref cyfagos Llanfairpwll, ond credir i'r bont gael ei cham-enwi yn "Bont Britannia" o gam-gyfieithiad o enw'r graig y saif colofn canol y bont arni - Carreg y Frydain. Mae gwraidd y gair "Frydain" yn dod o'r gair "brwd", ac yn enw disgrifiadol sy'n cyfeirio at natur wyllt y Fenai.
Adeiladu’r bont
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd y bont yn wreiddiol ar gyfer y rheilffordd yn unig, rhan o Rheilffordd Caer a Chaergybi. Rhoddwyd y gwaith i’r peiriannydd Robert Stephenson ac, fel Pont Y Borth o’i blaen, adeiladwyd pont tebyg (ond llai) gan yr un periannydd ar draws Afon Conwy yr un pryd.
Fel Pont Y Borth, roedd rhaid i’r bont fod yn ddigon uchel i ganiatau mynediad i longau hwylio oddi tani. Strwythr y bont wreiddiol oedd tiwbiau o haearn, gyda dau brif ran o 460 troedfedd (140m) o hyd, ac yn pwyso 1800 tunell. Gyda chysylltidau llai o 230 troeddfedd (70m) y naill ochr, roedd hyd y tiwb gyfan yn 1511 troedfedd (461m). Wedi cychwn ar y gwaith adeiladu ym 1846, agorwyd y bont ar 5 Mawrth, 1850. Roedd bellach yn bosibl cyrraedd Caergybi ar y reilffordd mewn naw awr o gymharu a rhyw ddeugain awr ar y goets.
Adnabyddwyd y bont wreiddiol yn gymaint fel "Y Tiwb" â’r enw swyddogol.
Tân
[golygu | golygu cod]Ar 23 Mai 1970 crwydrodd rhai hogiau lleol, yn chwilio am ystlumod, i mewn i’r bont, a chan danio torch i weld eu ffordd, yn ddiarwybod iddynt, cychwyanasant dân yn y bont. Er mai metel oedd strwythr y tiwb, roedd wedi ei atgyfnerthu gan goed, a’r coed hwnnw wedi ei drwytho mewn pitsh. Llosgodd hwn yn ulw dros nos, a dwysedd y gwres yn ddigon i fwclo’r haearn nes bod y bont, i bob pwrpas, wedi ei difa’n llwyr.[1][2]
Oherwydd y difrod i’r rheilffordd, roedd rhaid ailagor y rheilffordd i Gaernarfon am gyfnod a sicrhau bod nwyddau oedd wedi eu danfon ar y trên ar gyfer y porthladd yn cael eu cludo i Gaergybi ar y ffordd. Aethpwyd ati i ail-adeiladu’r bont gan osod bwâu newydd o ddur i gynnal y strwthr. Ail-agorwyd y bont i’r rheilffordd, ond llinell sengl yn unig, ym 1972.
Cymerodd fwy o amser eto i adeiladu’r dec ychwanegol i gludo’r ffordd, uwch ben y rheilffordd. Agorwyd hwn yn 1980. Caniatawyd i'r cyhoedd gerdded ar draws y bont cyn ei hagor i drafnidiaeth.
Llewod tew
[golygu | golygu cod]Roedd dyluniad y bont wreiddiol yn cynnwys llewod sylweddol o galchfaen, a ddyluniwyd gan John Thomas y naill ochr i’r rheilffordd ar ochr Sir Fôn a Sir Gaernarfon. Anfarwolwyd y rhain yn y pennill gan Y Bardd Cocos:
Pedwar llew tew
Heb ddim blew
Dau 'rochr yma
A dau 'rochr drew
Nid yw’r llewod i’w gweld o’r A55 er bod y syniad o’u codi at lefel y ffordd wedi ei wyntyllu o bryd i’w gilydd.
Y bont heddiw
[golygu | golygu cod]Maer bont yn cludo’r A55, bellach y brif ffordd ar draws Gogledd Cymru. Gan mai ffordd ddeuol yw hi y gweddill o’r ffordd, ond ar y bont yn ffordd sengl, ar adegau mae pwysau traffig y naill ochr neu’r llall yn achosi rhesi o gerbydau yn disgwyl croesi. Mae gwleidyddion lleol yn galw am ehangu’r bont, un ai gan osod trydedd lôn lawr y canol, neu adeliadau cerbydlonydd newydd tu allan i’r lonydd presennol.
Mae Llwybr Arfordirol Ynys Mon yn pasio dan y bont ar hyd y traeth ar lan Afon Menai yn ymyl Pwll Ceris.
Yn Ionawr 2016, yn dilyn marwolaeth Lemmy y cerddor roc trwm a fagwyd ar Ynys Môn, fe lansiwyd deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru newid enw'r Bont i "Pont Lemmy".[3]
Arddangosfeydd a chreiriau
[golygu | golygu cod]Mae nifer o luniau, cynlluniau a chreiriau o hanes y bont yn cael eu harddangos yn lleol, yn cynnwys –
- Oriel Ynys Môn Archifwyd 2007-03-11 yn y Peiriant Wayback
- Amgueddfa Bangor Archifwyd 2009-10-10 yn y Peiriant Wayback
- Plas Newydd Archifwyd 2007-03-11 yn y Peiriant Wayback (tudalen Saesneg)
- Arddangosfa'r Pontydd Archifwyd 2006-09-24 yn y Peiriant Wayback (tudalen Saesneg)
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Charles Matthew Norrie, Bridging the Years: A Short History of British Civil Engineering (Llundain, 1956)
- L.T.C. Rolt, George and Robert Stephenson: The Railway Revolution (Llundain, 1960), pennod 15
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Adroddiad Tân Swyddogol
- ↑ Fideo BBC)
- ↑ "Rename Britannia Bridge after Motorhead's Lemmy calls online petition", Daily Post, 2 Ionawr 2016; adalwyd 2 Ionawr 2016]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Casglu’r Tlysau Archifwyd 2006-01-05 yn y Peiriant Wayback
- Treftadaeth Môn Archifwyd 2007-03-11 yn y Peiriant Wayback
- Y Bardd Cocos
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Y strwythur gwreiddiol: ysgythriad gan A. Ashley (1850au)
-
Ysgythriad cynnar sy'n dangos lleoliad gwreiddiol y llewod
-
Rhan o’r "tiwb" gwreiddiol, a saif o flaen y bont bresennol]]
-
Pont Britannia heddiw
-
Un o'r tyrau fel y gwelir o'r ffordd