Playboy
![]() | |
Enghraifft o: | cylchgrawn, men's magazine, nude magazine ![]() |
---|---|
Y gwrthwyneb | Playgirl ![]() |
Crëwr | Hugh Hefner ![]() |
Golygydd | Hugh Hefner ![]() |
Cyhoeddwr | Playboy Enterprises, Hubert Burda Media Holding ![]() |
Iaith | Saesneg ![]() |
Tudalennau | 150 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1 Hydref 1953 ![]() |
Dechreuwyd | Rhagfyr 1953 ![]() |
Prif bwnc | men's magazine ![]() |
Pencadlys | Chicago ![]() |
Enw brodorol | Playboy ![]() |
Gwefan | https://www.playboy.com/ ![]() |
![]() |

Mae Playboy yn gylchgrawn Americanaidd i ddynion, a gafodd ei sefydlu yn Chicago, Illinois ym 1953, gan Hugh Hefner a'i gyd-weithwyr. Mae'r cylchgrawn wedi datblygu i Playboy Enterprises, Inc., gyda phresenoldeb ymhob agwedd o fywyd bron. Yn ogystal â'r prif gylchgrawn yn yr Unol Daleithiau, cyhoeddir fersiynnau gwledydd unigol yn fyd-eang.
Mae gan y cylchgrawn hanes o gyhoeddi straeon byrion gan nofelwyr fel Arthur C. Clarke, Ian Fleming, Vladimir Nabokov, a Margaret Atwood. Mae Playboy yn cynnwys cyfweliadau misol gan bobl enwog megis artistiaid, penseiri, economegwyr, cyfansoddwyr, cyfarwyddwyr ffilm, newyddiadurwyr, nofelwyr, dramodwyr, arweinwyr crefyddol, athletwyr a gyrwyr ceir rasio. Ers cychwyn y cylchgrawn, mae ganddo agwedd ryddfrydig ar faterion gwleidyddol a chymdeithasol.