Pileri'r Greadigaeth
Ffotograff gan Delesgop Gofod Hubble o'r hyn a elwir yn "drynciau eliffant o nwy a llwch" rhyngserol a leolir yn Nifwl yr Eryr yw Pileri'r Greadigaeth (Saesneg: Pillars of Creation). Mae'r ffotograff yn dangos cytser Serpens sydd tua 6,500–7,000 o flynyddoedd golau o'r Ddaear.[1] Maent wedi'u henwi felly oherwydd bod y nwy a'r llwch yn y broses o greu sêr newydd, tra hefyd yn cael eu herydu gan y golau o sêr cyfagos sydd newydd eu ffurfio.[2] Fe'i cymerwyd ar 1 Ebrill 1995, ac fe'i henwyd ymhlith deg uchaf o ffotograffau Hubble gan Space.com.[3] Jeff Hester a Paul Scowen o Brifysgol Talaith Arizona oedd y seryddwyr oedd yn gyfrifol am y llun. Ail-dynnwyd ffotograffau o'r rhanbarth gan Arsyllfa Ofod Herschel ESA yn 2011, ac eto gan Hubble yn 2014 gyda chamera newydd.
Mae'r enw yn seiliedig ar ymadrodd a ddefnyddiwyd gan Charles Spurgeon yn ei bregeth ar ymostyngiad Crist ("Condescension of Christ").[4] Yn y bregeth, mae Spurgeon yn defnyddio'r ymadrodd nid yn unig i gyfeirio at y byd ffisegol ond hefyd at y grym sydd yn dal y cyfan at ei gilydd, ac yn tarddu o'r dwyfol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Clavin, Whitney. "'Elephant Trunks' in Space". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-25. Cyrchwyd 9 Mawrth 2011.
- ↑ Embryonic Stars Emerge from Interstellar "Eggs" Archifwyd 2016-12-11 yn y Peiriant Wayback, Hubble news release
- ↑ Best Hubble Space telescope images from Space.com. Copi archif
- ↑ David H. Devorkin and Robert W. Smith. (2015). The Hubble Cosmos. National Geographic Magazine, page 67