Pierre Abélard
Pierre Abélard | |
---|---|
Ganwyd | Pierre Abélard 1079 Ar Palez |
Bu farw | 21 Ebrill 1142 Chalon-sur-Saône |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc, Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diwinydd, athronydd, cyfansoddwr, ieithydd, bardd, hunangofiannydd, rhesymegwr, llenor, crefyddwr |
Swydd | abad |
Adnabyddus am | Sic et Non, Dialectica |
Mudiad | y cyfnod Clasurol, Ysgolaeth, enwoliaeth |
Priod | Héloïse d’Argenteuil |
Athronydd ysgolaidd, awdur yn yr iaith Ladin a chyfansoddwr o Lydaw oedd Pierre Abélard (Lladin: Petrus Abaelardus, 1079 – 21 Ebrill 1142). Daeth yn enwog ledled Ewrop yn yr Oesoedd Canol fel un o sefydlwyr diwinyddiaeth sgolastigiaeth ac oherwydd ei gariad at Héloïse.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Abélard ger Nantes yn 1079. Astudiodd dan yr athronydd Enwoliaethol Roscellinus ac wedyn aeth i astudio ym Mharis dan Guillaume de Champeaux. Gwrthododd athroniaeth realaeth ei athro mewn cyfres o ddadleuon a enillodd fri iddo fel athronydd. Cafodd ei apwyntio yn athro a thrôdd at astudio diwinyddiaeth ; oherwydd ei ynglyniad wrth dulliau rhesymegol cafodd ei gyhuddo o hyrwyddo heresi.
Syrthiodd Abélard mewn cariad â lleian ifanc o'r enw Héloïse (1101 - 1164), nith Fulbert, un o ganoniaid Notre-Dame de Paris. Dysgai Abélard y ferch ifanc yn nhŷ Fulbert. Cawsant blentyn a phriodasant yn ddirgel. Ond pan ddaeth y carwriaeth anghyfreithlon i'r golwg dialodd Fulbert ar Abélard trwy logi band o droseddwyr i'w ddal a thorri ei geilliau. Erlidwyd Abélard gan yr awdurdodau eglwysig hefyd a bu rhaid iddo ffoi am loches o fynachlog i fynachlog, yn cynnwys Abaty Sant Gildas yn Llydaw (1128-1134). Roedd Sant Bernard yn arbennig o feirniadol o'i waith ac yn ei gyhuddo o fod yn heretig. Treuliodd ddau gyfnod yn y carchar a gorffenodd ei ddyddiau yn Abaty Cluny, lle cafodd nawdd ac amddiffyn gan yr abad caredig.
Fel llenor, mae Abélard yn enwog am y gyfres o lythyrau rhyngddo â Hélöise, a apwyntiwyd ganddo yn abades lleiandy Paraclete, a sefydlwyd ganddo ei hun.
Gwaith
[golygu | golygu cod]- Theologia (yn y llyfr hwn, Abelard yw'r cyntaf i ddefnyddio'r gair theologia (diwinyddiaeth)
- Dialectica
- Historia Calamitatum ('Hanes y Anffodau')
- Six planctus (cerddoriaeth)
- Ymddiddan rhwng athronydd, Iddew a Christion (1142)
Diwinyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Theologia Summi Boni
- Theologia Christiana
- Theologia Scholarium
- Sic Et Non
- Ethica sive Scito te ipsum
- Dialogus inter Philosophum, Christianum et Iudaeum
- Soliloqium
- Commentaria In Epistolam Pauli ad Romanos
- Problemata Heloissae
- Apologia Ne juxta Boethianum
- Confessio fidei Universis
- Confessio fidei ad Heloisam
- Sermones - Epistola introductoria Abaelardi
- Expositio Orationis Dominicae
- Expositio Symboli Apostolorum
- Expositio Symboli Athanasii
- Expositio in Hexaemeron
Athroniaeth
[golygu | golygu cod]- Dialectica
- De intellectibus
- Glossae super Topica
- Introductiones parvulorum
- Logica Ingredientibus
- Logica Nostrorum Petitioni
- De generibus et speciebus
- Sententie secundum Magistrum Petrum
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Athronwyr o Lydaw
- Athronwyr ysgolaidd
- Cyfansoddwyr o Lydaw
- Diwinyddion o Lydaw
- Pobl y 12fed ganrif o Ffrainc
- Pobl y 13eg ganrif o Ffrainc
- Genedigaethau 1079
- Llenorion y 12fed ganrif
- Llenorion y 13eg ganrif
- Llenorion yr Oesoedd Canol o Ffrainc
- Llenorion Lladin yr Oesoedd Canol
- Llenorion Lladin o Lydaw
- Marwolaethau 1142