Neidio i'r cynnwys

Pibydd coesgoch

Oddi ar Wicipedia
Pibydd coesgoch
Pibydd coesgoch ger y Cob, Porthmadog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Scolopacidae
Genws: Tringa
Rhywogaeth: T. totanus
Enw deuenwol
Tringa totanus
(Linnaeus, 1758)

Mae'r Pibydd coesgoch (Tringa totanus) yn un o aelodau mwyaf cyffredin teulu'r rhydyddion.

Mae'r Pibydd coesgoch yn nythu ar draws Ewrop a gogledd Asia. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de a'r gorllewin ac yn gaeafu io gwmpas Môr y Canoldir, de Asia a Gorllewin Ewrop. Ymhellach i'r gogledd, yn yr Arctig mae'r Pibydd coesgoch mannog, sy'n aderyn tebyg iawn, yn nythu.

Gellir adnabod y Pibydd coesgoch oddi wrth y coesau a'r pig coch, ac wrth iddo hedfan y llinell wen ar draws cefn yr adenydd. Yn y tymor nythu mae'r plu yn frown, tra yn y gaeaf mae'n aderyn mwy llwyd. Mae'n nythu mewn gwlybdiroedd, heb fod ymhell o'r môr fel rheol. Mae'n aderyn gwyliadwrus iawn, ac ym aml y Pibydd coesgoch yw'r cyntaf i roi rhybudd o berygl i'r adar eraill.

Yng Nghymru mae'r nifer o adar sy'n nythu wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf oherwydd fod llawer o wlybdiroedd addas ar gyfer nythu wedi eu colli. Gellir gweld llawer mwy ohonynt ar y traethau yn y gaeaf, pan mae adar o nifer o wledydd eraill yn dod i aeafu.

Tringa totanus totanus