Neidio i'r cynnwys

Perfformiwr drag

Oddi ar Wicipedia
Miss Understood sydd wedi ymddangos mewn nifer o raglenni teledu a ffilmiau
Symbol trawsryweddol
Symbol trawsryweddol
Trawsrywedd
Hunaniaethau
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Dyn traws · Kathoey · Menyw draws · Trydydd rhywedd
Pynciau
Cwestiynu · Trawsrywioldeb
Agweddau clinigol a meddygol
Dysfforia rhywedd · Llawdriniaeth ailbennu rhyw · Therapi hormonau trawsryweddol
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol
Cydnabyddiaeth gyfreithiol · Symbolau · Trawsffobia · Deddf Cydnabod Rhywedd 2004
Rhestrau
Pobl
Categori
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mae perfformiwr drag (sydd weithiau'n cael eu galw'n Frenhines Drag; Saesneg: Drag Queen) yn berson sy'n gwisgo, ac fel arfer yn perfformio fel menyw er mwyn creu adloniant i gynulleidfa. Ceir nifer o wahanol fathau o berfformwyr drag ac maent yn amrywio o berfformwyr proffesiynol sydd wedi ymddangos mewn ffilmiau i bobl sy'n ei wneud unwaith yn unig. Gall berfformiwr drag amrywio o ran dosbarth a diwylliant a gellir cael amrywiaeth o fewn yr un ddinas hyd yn oed. Er bod tueddiad o gysylltu perfformwyr drag gyda dynion hoyw neu bobl trawsrywiol, mae yna berfformwyr drag o bob rhyw ac o bob rhywioldeb sy'n gwisgo mewn drag am amrywiaeth o resymau.

Yn gyffredinol, mae perfformwyr drag yn gwisgo mewn dillad menywod, gan or-wneud nodweddion penodol am resymau comig, dramatig neu ddychanol. Mae perfformwyr drag hefyd yn gallu cynnwys Brenin Drag, sef menywod sy'n perfformio fel dynion.

Y Term

[golygu | golygu cod]

Mae'r term "drag" wedi esblygu dros amser. Roedd diffiniadau traddodiadol o’r term 'drag' yn defnyddio diffiniad deuaidd rhywedd o'r term a'r cysyniad. Roedd ar sail lle byddai person yn cael ei ystyried fel “mewn drag” pe bai’n gwisgo dillad o’r rhyw arall at ddibenion adloniant. Bellach, gall y term gynnwys archwiliadau gyda ffurfiau dwysach o wrywdod neu fenyweidd-dra, yn ogystal â chwarae gyda mathau eraill o hunaniaeth o ran rhywedd.[1]

Yn wahanol i ddynion sy'n ddynwared menywod, mae cysylltiad agos rhwng y term "drag" a hunaniaeth cwiar.[2]

Perfformiwyr Drag Cymraeg

[golygu | golygu cod]

Ceir sîn Drag Gymraeg, er, nad yw'n fawr iawn. Ymysg y perfformwyr drag sy'n perfformio yn y Gymraeg mae Maggi Noggi (Kristoffer Hughes sydd hefyd yn dderwydd ac yn awdur o Ynys Môn a Connie Orff.

Yn 2022 fel rhan o ddigwyddiadau gŵyl flynyddol Gymraeg, Caerdydd, Tafwyl cynhaliwyd noson 'Dragwyl'. Cynhaliwyd y Dragwyl gyntaf yng Nghlwb Ifor Bach yn y brifddinas.[3] Yn perfformio oedd Catrin Feelings, Anni Ben a Joanna Bumme.[4] Yn 2024 roedd y digwyddiad yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd dan arweiniad Connie Orff a'i ffreulu (ffrindiau+teulu) sef y term am griw o gyfeillion sy'n bodoli fel teulu i bobl.[5]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am faterion lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsryweddol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. Rycenga, Jennifer; Whiteley, Sheila, gol. (2013). Queering the Popular Pitch. Taylor & Francis. t. 29-30. ISBN 9781136093708.
  2. French, Sarah (13 April 2017). Staging Queer Feminism. Palgrave Macmillan UK. t. 94. ISBN 9781137465436.
  3. "Biwti yn Dragwyl Noson Drag Cymraeg". Sianel Youtube Hansh. 29 Mehefin 2022.
  4. "Dragwyl - Noson o ddrag Cymraeg". Hansh ar Youtube. 28 Awst 2022.
  5. "Ydyn, maen nhw nôl!". Canolfan y Mileniwm. Cyrchwyd 13 Mehefin 2024.