Pandemig
Math | epidemig, systemic risk, risg allanol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceir pandemig (o'r Groeg παν pan, "holl" a δήμος demos "pobl") pan mae haint yn lledaenau trwy'r bpblogaeth ddynol ar draws ardal eang, er enghraifft cyfandir neu hyd yn oed trwy'r byd.
Yn ôl y WHO ceir pandemig pan mae:
- haint sy'n newydd i'r boblogaeth a effeithir
- yr haint yn effeithio ar bobl a'r effeithiau yn ddifrifol
- yr haint yn medru lledaenu'n hawdd yn y boblogaeth
Un enghraifft o bandemig oedd y Fad Felen, a ymledodd ar draws Ewrop o'r Aifft yn y 6g. Lledaenodd y Pla Du o Asia i Ewrop yn 1348, a lladdodd 20 hyd 30 miliwn o Ewropeaid mewn chwe blynedd. Lledaenodd colera tu hwnt i India am y tro cyntaf ym mhandemig 1816–1826, gan ladd nifer fawr o bobl yn Tsieina; cyrhaeddodd yr ail bandemig yn 1829–1851 i Ewrop a Gogledd America. Bu pandemig o'r Ffliw Sbaenig yn 1918–1919, a ymledodd trwy'r byd; gan ladd 25 miliwn o bobl o fewn chwe mis.
Cafodd y frech wen ddylanwad mawr ar hanes cyfandir America. Nid oedd yn bod yno hyd nes iddi gyrraedd gyda'r Ewropeaid cyntaf, a chan nad oedd gan y trigolion brodorol wedi bod mewn cysylltiad a'r haint o'r blaen, lledaenodd yn gyflym gan achosi cyfran uchel o farwolaethau. Cred rhai ysgolheigion i rhwng 90% a 95% o boblogaeth frodorol America farw o heintiau Ewropeaidd, a'r frech wen oedd yn gyfrifol am y nifer fwyaf o farwolaethau. Roedd yn elfen bwysig ym muddugoliaeth y Sbaenwyr dros wareiddiadau'r Inca a'r Asteciaid.