Osian Ellis
Osian Ellis | |
---|---|
Ganwyd | 8 Chwefror 1928 Ffynnongroyw |
Bu farw | 5 Ionawr 2021 Pwllheli |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, athro cerdd, telynor |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | CBE |
Telynor a chyfansoddwr o Gymru oedd Osian Gwynn Ellis CBE (8 Chwefror 1928 – 5 Ionawr 2021).[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganwyd yn Ffynnongroyw, Sir Fflint, Cymru yn 1928, yn fab i T. G. Ellis, gweinidog gyda’r Wesleaid.[2] Astudiodd yn yr Academi Gerdd Frenhinol dan law Gwendolen Mason.[3] Yn ddiweddarach dilynodd hi fel Athro ar y delyn o 1959 tan 1989 yn yr Academi. Ymunodd â Cherddorfa Symffoni Llundain yn 1961 a ef oedd eu prif delynor. Roedd yn aelod o'r Melon Ensemble, ac ef a ffurfiodd Ensemble Telyn Osian Ellis.
Ef oedd Llywydd Anrhydeddus Gwyl Telyn Rhyngwladol Cymru [[4]
Bu’n aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a Chymdeithas Cerdd Dant Cymru. Derbyniodd anrhydeddau lu gan Brifysgol Cymru, Prifysgol Bangor a gwobrau haeddiannol gan brif sefydliadau cerddorol y genedl, a’r CBE gan y Frenhines. Fel athro telyn, dylanwadodd ar genedlaethau o gerddorion a thelynorion, yn ei plith Elinor Bennett a Sioned Williams.
Yn dilyn dathlu ei ben blwydd yn 90 oed, cyfansoddodd ddau waith newydd : "Cylch o Alawon Gwerin Cymru" (ar gyfer Bryn Terfel a Hannah Stone) a’i waith i delyn "Lachrymae".
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd ganddo chwaer hŷn, Elfrys. Roedd yn briod a Rene ac roedd ganddynt ddau fab - Richard Llywarch a Tomos Llywelyn (a fu farw yn 2009).
Bu farw ar 5 Ionawr 2021, yn 92 mlwydd oed, yn ei gartref yn Arfryn, Pwllheli. Cynhaliwyd ei angladd ar 15 Ionawr 2021 ac fe'i gladdwyd ym Mynwent Aberdaron.[5][6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Osian Ellis, harpist known for his association with Benjamin Britten and Peter Pears – obituary". The Telegraph (yn Saesneg). 15 Ionawr 2021. Cyrchwyd 15 Ionawr 2021.
- ↑ "Osian Ellis (1928-2021)". Canolfan Gerdd William Mathias. 15 Ionawr 2021.
- ↑ "Y telynor Osian Ellis wedi marw yn 92 oed". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 15 Ionawr 2021.
- ↑ Osian Ellis profile (*1928)
- ↑ Osian Ellis Obituary Notice. G D Roberts & Sons (16 Ionawr 2021).
- ↑ Osian Ellis (1928-2021). Canolfan Gerdd William Mathias (15 Ionawr 2021).