Neidio i'r cynnwys

Olyniaeth apostolaidd

Oddi ar Wicipedia
Cysegriad Deodatus (tua 1620) gan Claude Bassot.

Athrawiaeth eglwysig Gristnogol yw olyniaeth apostolaidd sy'n honni bod yr esgobyddiaeth yn cynrychioli llinach ddi-dor y gellir ei holrhain yn ôl i Ddeuddeg Apostol yr Iesu. Yn ôl y ddysgeidiaeth hon, mae esgobion yn berchen ar rymoedd arbennig y maent wedi etifeddu oddi ar yr apostolion, gan gynnwys yr hawliau i gonffyrmio aelodau'r eglwys, i ordeinio offeiriaid, i gysegru esgobion eraill, ac i lywodraethu'r glerigiaeth ac aelodau'r eglwys yn eu hesgobaethau.[1]

Mae'r athrawiaeth yn dyddio'n ôl i oes yr Eglwys Fore, er bod ei union darddiad yn ansicr. Dehonglir hanes ac athrawiaeth boreuaf y ffydd Gristnogol yn y Testament Newydd yn wahanol gan wahanol eglwysi a diwinyddion. Tua'r flwyddyn 95, ysgrifennodd Clement, Esgob Rhufain, lythyr at yr eglwys yng Nghorinth sy'n cadarnhau'r olyniaeth apostolaidd. Yn aml dyfynnir Mathew 28:19–20, anerchiad Iesu at ei apostolion, fel tystiolaeth o sefydlu'r esgobyddiaeth ganddo:

"Felly ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, a'u bedyddio nhw fel arwydd eu bod nhw wedi dod i berthynas â'r Tad, a'r Mab a'r Ysbryd Glân. A dysgwch nhw i wneud popeth dw i wedi'i ddweud wrthoch chi. Gallwch chi fod yn siŵr y bydda i gyda chi bob amser, nes bydd diwedd y byd wedi dod."[2]

Derbynir athrawiaeth yr olyniaeth apostolaidd gan yr eglwysi Catholig, Uniongred Ddwyreiniol, Hen Gatholig, Lwtheraidd (Llychlyn), Anglicanaidd, a Morafaidd. Mae eglwysi eraill yn dal nad yw'r olyniaeth apostolaidd a'r esgobyddiaeth yn angenrheidiol i weinyddu'r ffydd Gristnogol.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Apostolic succession. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Gorffennaf 2019.
  2. "Mathew 28", beibl.net. Adalwyd ar 18 Gorffennaf 2019.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Arnold Ehrhardt, The Apostolic Succession in the First Two Centuries (Llundain: Lutterworth, 1953).
  • Thomas M. Kocik, Apostolic Succession in an Ecumenical Context (Efrog Newydd: Alba House, 1996).
  • Hans Küng, Apostolic Succession: Rethinking a Barrier to Unity (Efrog Newydd: Paulist Press, 1968).
  • Ola Tjørhom (gol.), Apostolicity and Unity: Essays on the Porvoo Common Statement (Grand Rapids, Michigan: Eerdmans, 2002).