Neidio i'r cynnwys

Neddyf

Oddi ar Wicipedia
Neddyf
Mathwoodworking tool Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Neddyfau

Offeryn awch hynafol yw'r neddyf neu fwyell gam [1] sy'n dyddio'n ôl i Oes y Cerrig. Fe'i defnyddir gan amlaf i gerfio pren neu wyneb coeden. Mae llafn miniog y neddyf wedi ei osod ar draws blaen y goes, yn wahanol i fwyell, sydd â llafn wedi ei osod yn gyflin i'w goes. Offerynnau tebyg (ond pŵl) yw'r matog a'r caib, a ddefnyddir i balu daear galed. Rhanna'r un gwreiddyn â'r ferf "naddu", ac fe'i ceir hefyd yn Llydaweg: "ezeff".

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am offeryn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.