Nebraska
Arwyddair | Equality before the law ![]() |
---|---|
Math | taleithiau'r Unol Daleithiau ![]() |
Enwyd ar ôl | Afon Platte ![]() |
Prifddinas | Lincoln ![]() |
Poblogaeth | 1,961,504 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | Beautiful Nebraska ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Jim Pillen ![]() |
Cylchfa amser | UTC−07:00, America/Chicago ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA ![]() |
Sir | Unol Daleithiau America ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 200,520 km² ![]() |
Uwch y môr | 790 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Platte, Afon Niobrara, Afon Republican, Afon Missouri, Lewis and Clark Lake, Llyn McConaughy, Harlan County Reservoir ![]() |
Yn ffinio gyda | De Dakota, Missouri, Colorado, Iowa, Kansas, Wyoming ![]() |
Cyfesurynnau | 41.5°N 100°W ![]() |
US-NE ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Nebraska ![]() |
Corff deddfwriaethol | Nebraska Legislature ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Nebraska ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Jim Pillen ![]() |
![]() | |
Mae Nebraska yn dalaith yng ngogledd canolbarth yr Unol Daleithiau, sy'n gorwedd i'r gorllewin o Afon Missouri. Mae'n cynnwys rhan o'r Iseldiroedd Canolog yn y dwyrain a rhan o'r Gwastadiroedd Mawr yn y gorllewin. Cafodd ei archwylio gan y Ffrancod a'r Sbaenwyr. Roedd yn rhan o Bryniant Louisiana gan yr Unol Daleithiau yn 1803. Daeth yn dalaith yn 1867, a datblygodd yn gyflym fel canolfan ransio. Lincoln yw'r brifddinas.

Mae'r hen prairies a'i gyrroedd byffalo a oedd mor annwyl gan y Sioux a Cheyenne brodorol wedi hen ddiflannu. Yn eu lle ceir y caeau mawr agored sydd mor nodweddiadol o'r dalaith heddiw. Diflasodd T. H. Parry-Williams ar undonedd yr ardaloedd gwledig wrth deithio trwy'r dalaith yn y trên yn 1935:
Chwythed y peiriant y mwg o'i gorn
Dros y gwastadeddau indian-corn,
Gan leibio'r dwyrain i'w grombil tân,
A hollti'r pellterau ar wahân,
I mi gael cyrraedd rhyw dir lle mae
Rhywbeth i'w weld heblaw gwlad o gae.
(Synfyfyrion, 1937)
Dinasoedd Nebraska
[golygu | golygu cod]1 | Omaha | 408,958 |
2 | Lincoln | 258,379 |
3 | Bellevue | 50,137 |
4 | Grand Island | 48,520 |
5 | Kearney | 30,787 |
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) www.nebraska.gov