Marchnad Caerdydd
Math | neuadd marchnad, marchnad fwyd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | canol dinas Caerdydd, Castell, Caerdydd |
Sir | Caerdydd, Castell, Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 11 metr |
Cyfesurynnau | 51.4801°N 3.1787°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Marchnad Fictoraidd dan do yw Marchnad Caerdydd neu Marchnad Ganolog Caerdydd, yn Ardal y Castell yng nghanol Caerdydd, prifddinas Cymru.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Mae'r farchnad ar safle gwreiddiol carchar Caerdydd ac roedd y grocbren wedi ei leoli wrth fynediad Heol Eglwys Fair lle grogwyd Dic Penderyn ar 13 Awst 1831.
Fe ddyluniwyd y farchnad gan Arolygwr y Fwrdeistref, William Harpur, a fe'i hagorwyd yn Mai 1891.[1] Roedd marchnad ffarmwr wedi bodoli ar y safle ers yr 18g.
Mae dau lawr o siopau yn y farchnad, llawr gwaelod a lefel balconi sy'n amgylchynu'r waliau mewnol. Mae mynediadau i'r farchnad ar Heol Eglwys Fair, Heol y Drindod a lôn oddi ar Heol yr Eglwys.
Mae cloc mawr H. Samuel wedi hongian uwchben mynediad Heol Fawr ers 1910. Mae'r cloc presennol yn dyddio o 1963 (gan Smith of Derby) a fe'i hadferwyd ar gost o £25,000 yn 2011.[2][3]
Ers 1975 mae'r adeilad wedi ei rhestru ac yn Radd II* ar hyn o bryd.[4]
Stondinwyr
[golygu | golygu cod]Mae masnachwyr yn y farchnad yn cynnig amrywiaeth o gynnyrch ffres, bwyd wedi ei goginio, danteithion amrywiol a rhai nwyddau parhaol.
Masnachwr nodedig iawn yw Ashton y gwerthwr pysgod, sy'n honni eu bod wedi masnachu yn y farchnad ers 1866,[5] sydd wedi eu lleoli wrth fynediad Heol y Drindod ac yn gwerthu amrywiaeth eang o fwyd môr ffres. Fe roedden nhw yn y newyddion yn 2012 pan wnaethon nhw werthu cig o lwynog môr (thresher shark) 20 troedfedd a 550 pwys.[6]
Masnachwr arall ers tro yw'r Market Deli, busnes bach teuluol sy'n masnachu ers dros 100 mlynedd, ar yr un stondin ers 1928.[7]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Rhestr o arcedau siopa yng Nghaerdydd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cardiff: the building of a capital". Glamorgan Record Office. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-11-23. Cyrchwyd 2008-09-17.
- ↑ "Cardiff landmark clock in St Mary Street to be restored". BBC News. 20 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 2013-03-26.
- ↑ http://www.geograph.org.uk/photo/3368
- ↑ Cardiff Central Market, Castle, BritishListedBuildings.co.uk. Adalwyd 18 Mawrth 2013.
- ↑ "1900's". History. Cardiff Market website. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-18. Cyrchwyd 25 Mawrth 2013.
- ↑ "Thresher shark sale defended by Cardiff fishmonger". BBC News. 27 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 25 Mawrth 2013.
- ↑ "The History Of The Market Deli". Market Deli website. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 25 Mawrth 2013.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Marchnad Caerdydd (gwefan swyddogol) Archifwyd 2008-01-12 yn y Peiriant Wayback
- Marchnad Caeedydd (gwefan Cyngor Caerdydd) Archifwyd 2015-09-20 yn y Peiriant Wayback