Maquis
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | ffurfiant tyfiannol |
---|---|
Math | prysgoed |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Maquis (gair Ffrangeg, cynaniad ma-CI) / macchia (Eidaleg / Corseg) yw'r prysgwydd sy'n tyfu ger y Môr Canoldir yn ne Ewrop. Mae'r maquis yn llawn o flodau gwyllt, llwyni a choed, yn enwedig derw fythwyrdd a derw gorcyn. Gelwir rhein yn Chaparral os fydd y dderwen fythwyrdd yn ddigonol. Mae yna diroedd tebyg mewn lleoedd eraill gyda hinsawdd y Canoldir fel y mattoral yng nghanolbarth Tsile, y fynbos yn Ne Affrica a'r mallee yn ne Awstralia.
Prif blanhigion y maquis
[golygu | golygu cod]Dyma'r brif blanhigion sy'n tyfu'n wyllt yn y maquis;-
- Arbutus unedo : Mefuswydden
- Calycotoma spinosa : Calycotom ddraenog
- Cistus monspeliensis : Rhosyn y graig Montpellier
- Cistus laurifolius : Rhosyn y graig a deilen llawryf
- Cistus salviaefolius : Rhosyn y graig a deilen saets
- Erica arborea : Grugwydden
- Helichrysum italicum Blodyn dragwyddol
- Lavandula stoechas : Lafant
- Lobularia maritima / Alyssum maritimum : Alyswm pêr
- Myrtus communis : Myrtwydd
- Pinus halepensis : Pinwydden Halab / Pinwydden Alep
- Pinus pinea : Pinwydden ymbarél
- Pistacia lentiscus : Lentiscus : Mastigwydden
- Quercus ilex : Prinwydden / Derwen fythwyrdd
- Quercus suber : Derwen gorcyn
- Rosmarinus officinalis : Rhos Mair / Rhosmari
Y fyddin gyfrinachol
[golygu | golygu cod]Yn ystod meddiant yr Almaenwyr yn Ffrainc yn 1940 - 1945 roedd yna fyddin gyfrinachol o'r enw "Maquis" wedi cymryd ei enw o'r tiroedd hyn.