Makemake (planed gorrach)
![]() | |
Enghraifft o: | planed gorrach, cubewano ![]() |
---|---|
Màs | 3.1 ![]() |
Dyddiad darganfod | 31 Mawrth 2005 ![]() |
Rhagflaenwyd gan | (136471) 2005 FJ7 ![]() |
Olynwyd gan | 136473 Bakosgaspar ![]() |
Lleoliad | Cysawd yr Haul ![]() |
Echreiddiad orbital | 0.15802 ![]() |
Radiws | 717 ±15 cilometr ![]() |
![]() |

Planed gorrach drydedd fwyaf Cysawd yr Haul a leolir yng Ngwregys Kuiper yw Makemake (enw catalog: (136472) Makemake, symbol: ).[1] Mae ganddi ddiamedr o tua 1300–1900 km, sef tua tri chwarter diamedr Plwton. Does gan Makemake ddim lloerennau, hyd y gwyddys, sy'n ei gwneud yn unigryw ymhlith gwrthrychau mwyaf Gwregys Kuiper. Oherwydd ei thymheredd hynod o isel ar gyfartaledd (tua 30 K), gorchuddir ei wyneb â rhew methan, ethan a hefyd nitrogen efallai.
Cafodd Makemake ei darganfod ar 31 Mawrth, 2005 gan dîm o seryddwyr dan arweiniad Michael Brown, a chyhoeddwyd y darganfyddiad ar 29 Gorffennaf yn yr un flwyddyn. Ar 11 Mehefin, 2008, cynhwysodd yr IAU Makemake ar ei restr o wrthrychau i'w hystyried am statws "plwtonaidd", term a ddefnyddir i ddisgrifio planedau corrach sy'n gorwedd y tu hwnt i gylchdro Neifion, a oedd yn cynnwys erbyn hynny Plwton ac Eris. Dosbarthwyd Makemake yn ffurfiol yn un o'r plwtoniaid yng Ngorffennaf 2008.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Rhestr MPEC am Makemake Prifysgol Harvard
- (Saesneg) Cylchdro Makemake / Ephemeris NASA
- (Saesneg) "Makemake of the Outer Solar System" NASA 15 Gorff., 2008
- ↑ JPL/NASA (2015-04-22). "What is a Dwarf Planet?". Jet Propulsion Laboratory. Cyrchwyd 2022-01-19.