Lwsifferiaeth
Gwedd
Y ffordd orau i ddiffinio Lwsifferiaeth yw fel cyfundrefn gred sy'n anrhydeddu nodweddion hanfodol Lwsiffer.
Mae Lwsifferiaeth yn aml yn cael ei chanfod fel rhywbeth ategol i Sataniaeth, oherwydd cydberthyniad canonaidd Lwsiffer â Satan. Mae rhai Lwsifferiaid yn derbyn y dehongliad hwnnw neu yn ystyried Lwsiffer i fod yn agwedd o Satan fel cludwr golau, ac felly gellir eu disgrifio fel Satanyddion. Mae eraill yn gwrthod hynny, a dadlau bod Lwsiffer yn ddelfryd mwy positif na Satan. Maen nhw'n cael eu hysbrydoli gan fytholeg yr Aifft, Groeg a Rhufain, Gnostigiaeth ac ocwltiaeth draddodiadol y Gorllewin.
Ceir sawl safbwynt gwahanol ar sut i ddiffinio Lwsifferiaeth. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Lwsifferiaeth Draddodiadol/Grefyddol: Hwn yw'r safbwynt sy'n gweld Lwsiffer fel duwdod byw, ac sy'n cael ei addoli felly. Fel arfer, mae Lwsiffer yn cael ei gyfystyru â Satan ac nid oes unrhyw wahaniaeth go iawn rhwng yr athronyddiaeth yma a Sataniaeth theistig.
- Lwsifferiaeth Ysbrydol/Gnostigaidd: Mae Lwsifferiaeth Ysbrydol yn hanu o athronyddiaeth esoterig Ocwltiaeth y Gorllewin ac Hermetigiaeth. Mae'r safbwynt hwn yn credu bod Satan yn ymgnawdoliad o'r Byd Materol, tra mae Lwsiffer yn cynrychioli'r ddelfryd ysbrydol uchaf, y Gwir Ewyllys, yr Angel Gwarchodol Sanctaidd. Gan fod popeth "materol" yn egni neu olau, ystyrir Lwsiffer i fod yn rym creadigol, hollbresennol. Mae Lwsifferiaeth yn fwy fel cangen o Hermetigiaeth na Sataniaeth, gan nad oes ganddi lawer yn gyffredin â'r olaf. Mae'r rhan fwyaf o'i hymarferion dewinol wedi eu dylanwadu gan Roger Williamson ac Aleister Crowley. Mae enwadau amrywiol o Lwsifferiaeth Gnostigaidd sy'n pwysleisio deuoliaeth y bydysawd hefyd wedi cael eu cysylltu â delwedd Lwsiffer, fel "cludwr golau". Mae'r safbwynt uniongred wedi cysylltu Lwsiffer â "Satan cyn y cwymp", er, fel mae enw'r esgob Lwsiffer Calaritanws yn tystio, nid oedd Lwsiffer eto yn cael ei gysylltu â Satan yn y 4g.
- Lwsifferiaeth Athronyddol: Safbwynt Lwsifferiaeth Athronyddol yw cydnabod Egwyddorion Lwsiffer fel "Golau Esblygiad Ymwybodol". Fel duw neu fel egwyddor, "Cludwr Golau" yw Lwsiffer. Y golau sy'n goleuo ymwybod bodau deallus a dyrchafu'r synhwyrau a'r ymwybod i brofi Lefelau Uchel Bod. Llwybr Hunan-Gyrhaeddiad yw Lwsifferiaeth, yr Hunan Uchaf. Y Llwybr Canol yw, nac i'r Chwith nac i'r Dde. Y Seren sy'n disgleirio yn y bore ac yn yr hwyr ill dau yw Lwsiffer, y pwynt golau rhwng y lluoedd gwrthwynebol.
- Lwsifferiaeth Gyfoes: Mae Lwsifferiaeth gyfoes a Sataniaeth gyfoes yn rhannu llawer o agweddau sylfaenol: mae ymarferwyr yn huniaethu â hanfod goruwchbersonol sy'n ymgorffori nodweddion dewisol; mae'r ymarferwyr yn defnyddio'r nodweddion hyn fel modd i wellhau'r hunan; Maen nhw'n addoli dwyfoliaeth fewnol yn hytrach nag addoli'r diafol. Gelwir Lwsifferiaeth Gyfoes a Sataniaeth Gyfoes y 'Traddodiad Sinistr' am eu defnydd o symbolau sinistr i greu awyrgylch o ddieithrwch er mwyn ansefydlogi unrhyw synnwyr o ddiogelwch, fel y gall yr ymarferwr feistroli ei ofnau a hefyd newid ei ganfyddiad goddefol o'i amgylchedd.