Llyn Vostok
Gwedd
Math | rift lake, subglacial lake |
---|---|
Enwyd ar ôl | Vostok Station |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal Cytundeb Antarctig |
Arwynebedd | 15,690 km² |
Cyfesurynnau | 77.5°S 106°E |
Hyd | 250 cilometr |
Llyn tanrewlifol yn yr Antarctig yw Llyn Vostok (Rwseg, yn golygu "dwyrain"). Ef yw'r mwyaf o tua 140 o lynnoedd tanrewlifol yn yr Antarctig, 15,690 km² o ran arwynebedd. Saif tua 4,000 medr oddi tan y rhew, oddi tan Gorsaf Vostok, gorsaf ymchwil Rwsiaidd yn y rhan o'r Antarctig a hawlir gan Awstralia.
Mae tymheredd dyfroedd y llyn tua -3 °C, ond nid yw'n rhewi oherwydd pwysau'r rhew uwch ei ben. Cynhesir gwaelod y llyn gan wres geothermal o du mewn y ddaear.