Llwybr Arfordir Cymru
Gwedd
Math | llwybr troed, atyniad twristaidd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymru |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 52.39°N 4°W |
Llwybr pellter hir sy'n dilyn holl arfordir Cymru yw Llwybr Arfordir Cymru. Mae'n ymestyn am 870 milltir (1,400 km) o gyrion Caer yn y gogledd i Gas-gwent yn y de.[1] Agorwyd y llwybr yn swyddogol ar 5 Mai 2012 ond mae'n defnyddio sawl llwybr hŷn megis Llwybr Arfordirol Ynys Môn a Llwybr Arfordir Sir Benfro. Mae'n rhedeg trwy ddau Barc Cenedlaethol, tair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac 11 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.[2]
Mae'r llwybr mor agos i’r arfordir ag y caniatâ’r gyfraith, ac yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch, rheoli tir a chadwraeth.[3]
Llwybrau rhanbarthol
[golygu | golygu cod]- Llwybr y Gogledd: Caer - Prestatyn - Y Rhyl - Llandudno - Conwy - Penmaenmawr
- Llwybr Arfordirol Ynys Môn: Biwmares - Moelfre - Amlwch - Caergybi - Aberffraw - Niwbwrch
- Llwybr Menai Llŷn: Bangor - Caernarfon - Aberdaron - Pwllheli - Porthmadog - Y Bermo - Tywyn - Aberdyfi
- Llwybr Arfordir Ceredigion: Machynlleth - Aberystwyth - Aberaeron - Llangrannog - Aberteifi
- Llwybr Arfordir Sir Benfro: Abergwaun - Tyddewi - Aberdaugleddau - Doc Penfro - Llangofen - Dinbych-y-pysgod - Amroth
- Llwybr Arfordir Sir Gaerfyrddin: Pentwyn - Talacharn - Caerfyrddin - Cydweli - Porth Tywyn - Llanelli
- Llwybr arfordir Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe: Casllwchwr - Rhosili - Y Mwmbwls - Abertawe - Porth Talbot - Margam
- Llwybr arfordir De Cymru ac Aber Hafren: Y Barri - Bae Caerdydd - Penarth - Casnewydd - Trefynwy - Cas-gwent
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]-
Cymru ar hyd ei Glannau (2012)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ firstnature.com - Countdown to the Wales Coast Path Adalwyd 10 Gorffennaf 2012.
- ↑ bbc.co.uk - Wales Coast Path officially opens with events in Cardiff, Aberystwyth and Flint Adalwyd 10 Gorffennaf 2012.
- ↑ Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru; Archifwyd 2012-07-13 yn y Peiriant Wayback adalwyd 04 Mehefin 2013.