Llosgfynydd
![]() | |
Math | mynydd, tirffurf folcanig ![]() |
---|---|
Deunydd | craig folcanig, magma, lafa, llif lafa, teffra, twff, lludw ![]() |
Yn cynnwys | craig folcanig ![]() |
Cynnyrch | carbon deuocsid, craig igneaidd ![]() |
![]() |

Caiff llosgfynydd (mynydd tân) ei greu lle mae craig tawdd (magma) yn codi i wyneb y ddaear gan achosi echdoriadau folcanig. Craig wedi ei doddi mwy na 10 km o dan wyneb y Ddaear yw magma sydd wedyn yn dechrau codi tuag at wyneb y ddaear. Pan fydd y magma yn cyrraedd wyneb y ddaear mae'n llifo neu'n chwydu allan ohoni ar ffurf lafa neu ludw folcanig. Ar wahân i graig tawdd mae lafa yn cynnwys nwy.
Lleolir llosgfynyddoedd y ddaear lle mae platiau tectonig yn cwrdd neu uwchben mannau poeth. Ar hyn o bryd mae'r mwyafrif o ffrwydriadau llosgfynyddoedd a daeargrynfeydd y ddaear yn digwydd o gwmpas y Môr Tawel, yn dilyn ymylon plât tectonig y Môr Tawel.
Echdoriadau diweddar
[golygu | golygu cod]
1. Ffrwd lludw 2. Cawod ludw 3. Cromen lafa 4. Bom folcanig 5. Mygdwll a llif pyroclastig 6. Haenau lafa a lludw 7. Stratwm 8. Pibell fagma 9. Siambr fagma 10. Deic
Llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ ydy Eyjafjallajökull ac fe achosodd gryn anhwylustod i deithio awyr drwy Ewrop yng ngwanwyn 2010. Chwythodd gwynt y gogledd ei lwch dros wledydd Prydain yn Ebrill a Mai pan waharddwyd awyrennau rhag hedfan. Ym Mai 2011 ffrwydrodd llosgfynydd arall ynn Ngwlad yr Iâ, sef Grímsvötn. Rhyddhawyd mwy o ludw yn ystod y 24 awr cyntaf na wnaeth Eyjafjallajökull drwy gydol ei echdoriad. Roedd y cymylau lludw'n codi hyd at 15 km. Mesurodd VEI4 ar y raddfa berthnasol.
Llosgfynyddoedd y Byd
[golygu | golygu cod]Dyma rai o'r llosgfynyddoedd enwocaf:
- Erebus (Ynys Ross, Antarctica)
- Etna (yr Eidal)
- Eyjafjallajökull (Gwlad yr Iâ)
- Feswfiws (Yr Eidal)
- Ffwji (Honshu, Siapan)
- Hekla (Gwlad yr Iâ)
- Krakatoa (Rakata, Indonesia)
- Mauna Loa (Hawäi, UDA)
- Mauna Kea (Hawäi, UDA)
- Mont Pelée (Martinique)
- Mynydd Rainier (Washington, UDA)
- Mynydd St. Helens (Washington, UDA)
- Novarupta (Alasga, UDA)
- Popocatépetl (Mecsico)
- Surtsey (Gwlad yr Iâ)
- Santorini (Gwlad Groeg)
- Tambora (Sumbawa, Indonesia)
- Teide (Tenerife, Sbaen)
- Unzen (Kyushu, Siapan)
Llosgfynyddoedd Cymru
[golygu | golygu cod]Nid oes llosgfynyddoedd yn ffrwydro yng Nghymru heddiw, ond fe oedd miliynau o flynyddoedd yn ôl. O ganlyniad, mae'n bosib gweld creigiau a lludw folcanig yng Nghymru, er enghraifft ar Rhobell Fawr. Fe ddefnyddir y creigiau hyn ar gyfer adeiladu.