Neidio i'r cynnwys

Llanerfyl

Oddi ar Wicipedia
Llanerfyl
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth406, 431 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd6,136.09 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.7065°N 3.4199°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000298 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ041130 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRussell George (Ceidwadwyr)
AS/au y DUCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llanerfyl.[1] Saif ar ffordd yr A458 tua hanner ffordd rhwng Y Trallwng i'r dwyrain a Dolgellau i'r gorllewin. Tua milltir i'r gorllewin ceir pentref Llangadfan.

Rhed afon Banwy heibio i'r pentref ar ei ffordd i lawr Dyffryn Banwy i'r Trallwng.

Enwir yr eglwys a'r plwyf ar ôl y Santes Erfyl/Eurfyl. Ni wyddys ddim amdani, ond yn ôl traddodiad roedd hi'n ferch i Sant Padarn. Ceir maen Cristnogol cynnar (5ed neu 6g) yn eglwys Llanerfyl sy'n cofnodi man claddu merch ifanc 13 oed:

HIC [IN] / TUM(V)LO IAC/IT R[O]STE/ECE FILIA PA/TERNINI / AN(N)IS XIII IN / PA(CE)
('Yma yn y beddrod gorwedd *Rhostege ferch Padarn, 13 (oed). Heddwch iddi.').[2]

Ganwyd y gantores enwog Siân James yn y pentref yn 1962.

Plu'r Gweunydd yw papur bro Llanerfyl a'r cylch.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[4]

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanerfyl (pob oed) (406)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanerfyl) (223)
  
56.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanerfyl) (191)
  
47%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanerfyl) (50)
  
30.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. T. D. Beverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.