Libiamo ne' lieti calici
Enghraifft o'r canlynol | gwaith neu gyfansodiad cerddorol |
---|---|
Rhan o | La traviata |
Genre | opera |
Cymeriadau | Violetta Valéry, Alfredo Germont |
Libretydd | Francesco Maria Piave |
Cyfansoddwr | Giuseppe Verdi |
Mae " Libiamo ne' lieti calici "(
[liˈbjaːmo nɛ ˈljɛːti ˈkaːlitʃi]; "Dewch i ni yfed o'r cwpanau llawen") yn ddeuawd enwog gyda chorws o La traviata (1853) gan Giuseppe Verdi, ac yn un o'r alawon opera mwyaf adnabyddus. Mae llawer o denoriaid "mawr" yn dewis perfformio'r ddeuawd (ac yn wir yr opera y mae'n rhan ohoni). Mae'r gân yn brindisi, cân fywiog sy'n annog yfed gwin neu ddiodydd alcoholig eraill.
Golygfa
[golygu | golygu cod]Perfformir y ddeuawd yn act gyntaf yr opera, yn ystod parti hwyr y nos yn nhŷ Violetta Valéry. Mae'n cael ei chanu gan Violetta ac Alfredo Germont, dyn ifanc sydd mewn cariad â hi. Mae Alfredo yn cael ei berswadio gan ei ffrind Gastone a chan Violetta i ddangos pa mor dda mae'n gallu canu. Mae'n cychwyn y gân yfed hon, ynghyd â Violetta a gweddill y cwmni yn ddiweddarach.[1]
Mae'r darn wedi'i ysgrifennu mewn B fflat fwyaf, ei lofnod amser yw 3/8, ac mae'r tempo wedi'i farcio'n Allegretto, . = 69.[2]
Libreto Eidaleg a chyfieithiad bras i'r Gymraeg
[golygu | golygu cod]Ysgrifennodd Francesco Maria Piave y testun.
Alfredo |
Alfredo |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Robert Glaubitz. "The Aria Database". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-27. Cyrchwyd 2009-01-15.
- ↑ La traviata. Mila: Ricordi. 1914. tt. 31–47.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Libiamo ne' lieti calici" ; Deuawd Renata Tebaldi a Gianni Poggi o 1954
- "Libiamo ne 'lieti calici", sgôr piano-lleisiol, Eidaleg a Saesneg, Llyfrgell Gerdd William a Gayle Cook, Ysgol Gerdd Prifysgol Indiana