La Pobla de Segur
Math | bwrdeistref yng Nghatalwnia |
---|---|
Prifddinas | La Pobla de Segur |
Poblogaeth | 3,015 |
Pennaeth llywodraeth | Marc Baró Bernaduca |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Catalaneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Pallars Jussà |
Gwlad | Catalwnia |
Arwynebedd | 32.8 km² |
Uwch y môr | 524 metr |
Gerllaw | Noguera Pallaresa, el Flamisell, Pantà de Sant Antoni |
Yn ffinio gyda | Baix Pallars, Conca de Dalt, Salàs de Pallars, Senterada |
Cyfesurynnau | 42.2474°N 0.9673°E |
Cod post | 25500 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of La Pobla de Segur |
Pennaeth y Llywodraeth | Marc Baró Bernaduca |
Mae La Pobla de Segur yn fwrdeistref sydd wedi'i lleoli yn comarca Pallars Jussà, talaith Lleida, Catalwnia, yng ngogledd Sbaen. Fe'i lleolir yng nghymer afonydd Flamicell a Noguera Pallaresa yng ngogledd y comarca, uwchben cronfa ddŵr Sant Antoni. Mae'n ganolfan wasanaeth leol bwysig, sydd wedi caniatáu iddi ddianc rhag y diboblogi sydd wedi effeithio ar lawer o fwrdeistrefi yng ngogledd-orllewin Catalwnia. Gwasanaethir y pentref gan ffordd C-13 rhwng Tremp a Sort, ffordd N-260 i Bont de Suert a chan orsaf reilffordd ar reilffordd i Lleida .
Mae pobl enwog o La Pobla de Segur yn cynnwys y chwaraewr FC Barcelona, Carles Puyol ac Uwch Gynrychiolydd dros y Polisi Tramor a Diogelwch Cyffredin presennol yr Undeb Ewropeaidd, Josep Borrell.
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd yr anheddiad cynharaf yn yr ardal i'r gogledd o'r dref bresennol, a elwir yn El Pui de Segur. Fe'i ymgorfforwyd yn rhan o sir Pallars ar ôl i'r Iarll Guillaume I o Toulouse gipio'r rhanbarth a'r ôl trechu'r Moors yn y nawfed ganrif. Trosglwyddwyd y dref i'w lleoliad presennol yng nghanol y drydedd ganrif ar ddeg, a daeth o dan reolaeth Pere VII el Donzell, Is-iarll Vilamur, yn 1355 . Rhoddodd ei fab Pere VIII y siarter gyntaf i'r dref yn 1363. Byddai rheolaeth yn trosglwyddo i Ddugiaid Cardona yn ddiweddarach.
Mae'r Comú de Particulars yn fenter gydweithredol leol, a sefydlwyd ym 1834 i reoli melin flawd a roddwyd i'r dref gan Ddug Cardona: yn agored i frodorion y dref neu eu priod, mae bellach yn sefydliad diwylliannol sy'n rheoli'r incwm o'r orsaf bŵer hydrodrydanol leol. Mae'r Torre Maure yn grŵp nodedig o adeiladau arddull modernista o ddechrau'r ugeinfed ganrif.
Refferendwm ailenwi promenâd
[golygu | golygu cod]Ym mis Mawrth 2023 cynhaliwyd refferendwm lleol fel rhan o ymgynghoriad ailenwi promenâd yn y dref. Roedd y promenâd wedi'i enwi ar ôl y gwleidydd Josep Borrell sy'n hanu o'r dref, ond roedd 77.6% o'r rhai a fwrodd bleidlais o blaid newid yr enw i 'Promenâd y Y Cyntaf o Hydref' i goffau refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2017.[1] Roedd Josep Borrell o'r PSOE yn chwyrn yn erbyn annibyniaeth ac wedi rhannu llwyfan gyda chynrychiolwyr asgell dde ac asgell dde eithafol. Aeth mor bell â dweud yn gyhoeddus bod angen "diheintio Catalwnia", ymadrodd a achosodd, oherwydd ei ystyron Natsïaidd amlwg, feirniadaeth lem, ac sydd bellach wedi arwain at y refferendwm yn ei dref enedigol.[2]
Demograffeg
[golygu | golygu cod]1900 | 1910 | 1920 | 1930 | 1940 | 1950 | 1960 | 1970 | 1981 | 1991 | 1996 | 2001 | 2005 | 2011 | 2013 |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1.549 | 1.529 | 1.775 | 1.883 | 2.511 | 2.469 | 3.288 | 3. 513 | 3. 356 | 3. 114 | 2. 997 | 2.789 | 3.043 | 3. 246 | 3.073 |
Israniadau
[golygu | golygu cod]Mae bwrdeistref La Pobla de Segur yn cynnwys tri phentref anghysbell: rhoddir y poblogaethau fel yr oeddynt yn 2005.
- Montsor (2)
- Puimanyons (3), ar lan dde afon Flamicell yn ei chydlifiad â Noguera Pallaresa.
- Sant Joan de Vinyafrescal (63), i'r de o la Pobla de Segur ar lan dde cronfa ddŵr Sant Antoni.
Pobl nodedig
[golygu | golygu cod]- Gwleidydd a diplomydd o Sbaen oedd Pedro Cortina y Mauri, (ganwyd La Pobla de Segur, 18 Mawrth 1908 - Madrid, 14 Chwefror 1993 ) a wasanaethodd fel y Gweinidog Materion Tramor olaf o dan Francisco Franco rhwng 1974 a 1975
- Gwleidydd Sbaenaidd, aelod o Blaid Sosialaidd Sbaen yw Josep Borrell Fontelles, (ganwyd 24 Ebrill 1947). Bu'n Weinidog Gwaith Cyhoeddus ac Amgylchedd Llywodraeth Sbaen (1991-1996) ac yn Llywydd Senedd Ewrop (2004-2007). Ar 4 Mehefin 2018 daeth yn Weinidog Materion Tramor a Chydweithrediad Sbaen.
- Carles Puyol, (ganwyd 13 Ebrill, 1978), cyn-bêl-droediwr a chwaraeodd dros FC Barcelona a Sbaen fel amddiffynnwr ac enillodd Cwpan y Byd 2010 FIFA .
Chwaer ddinasoedd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Josep Borrell's hometown removes his name from promenade". VilaWeb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-03-17.
- ↑ "Video: new Spanish foreign minister talking of "disinfecting" Catalonia". El Nacional (yn Saesneg). 2018-06-04. Cyrchwyd 2023-03-17.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol La Pobla de Segur
- Tudalennau data'r llywodraeth (mewn Catalaneg)