Neidio i'r cynnwys

Kursk

Oddi ar Wicipedia
Kursk
Mathtref/dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth440,052 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1032 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethIgor Vyacheslavovych Kutsak Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Speyer, Tczew, Niš, Witten, Zweibrücken, Chern, Užice, Feodosiya, Tiraspol, Gomel, Dębno, Vidyayevo, Veria, Sukhumi, Gagarin Raion, Severodvinsk, Polotsk, Pitsunda, Novopolotsk, Gyumri, Yevpatoria, Drochia District, Donetsk, Chichester, Belgorod, Bar Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirOblast Kursk Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd190.75 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr250 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7372°N 36.1872°E Edit this on Wikidata
Cod post305000 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethIgor Vyacheslavovych Kutsak Edit this on Wikidata
Map
Baner dinas Kursk
Golygfa ar ddinas Kursk

Kursk (Rwseg: Курск) yn ddinas ac yn ganolfan weinyddol Oblast Kursk, Rwsia, a leolir yng nghymer afonydd Kur, Tuskar, a Seym. Mae ganddi boblogaeth o

440,052 (2021), sy'n eitha tebyg i Gaerdydd.

Roedd yr ardal o amgylch Kursk yn safle trobwynt yn y frwydr Sofietaidd-Almaenig yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn safle'r frwydr unigol fwyaf mewn hanes, Brwydr Kursk.

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cynllun trefol a'i hanes

[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd Kursk yn wreiddiol fel dinas gaerog ar fryn. Amgylchynir y ddinas ar dair ochr gan Afon Kur (basn Amur) i'r gorllewin ac afon Tuskar i'r de a'r dwyrain. Roedd coedwigoedd i gyfeiriad y gogledd. Erbyn 1603, roedd Kursk wedi dod yn ganolfan filwrol, weinyddol ac economaidd tiriogaeth eang yn ne'r wlad. Adeiladwyd caer newydd o dan arweiniad y llywodraethwyr Ivan Polev a Nelyub Ogaryov. Rhoddwyd rôl arbennig o bwysig i gaer Kursk, oherwydd yn y lleoedd hyn roedd Tatariaid Chaniaeth y Crimea, a oedd yn gwneud cyrchoedd cipio caethweision yn rheolaidd ar rannau o Rwsia. Fel arfer, byddent yn croesi afon Seym, ac roedd eu prif ffordd, sef Llwybr Muravsky, yn pasio heibio dwyrain y ddinas. Yn hyn o beth, er nad oedd Kursk yn rhan o Linell Warchod Belgorod,[1] daeth yn un o'r caerau pwysicaf yn y rhanbarth deheuol. Yn 1616, roedd 1,600 o filwyr yng ngarsiwn Kursk.[2]

Erbyn 1782, roedd adeiladau Kursk wedi'u lleoli ar gopa dau fryn ac yn nyffryn yr afon Kursk. Roedd dolydd a phorfeydd ar lan yr afon ac roedd strydoedd y ddinas ar lethrau'r bryniau'n serth mewn llawer man. Roedd presenoldeb chwe cheunant fel creithiau serth trwy fryn yn Nagornaya yn rhwystro datblygiad Kursk yn sylweddol. Weithiau roedd glaw trwm yn erydu pridd y llethrau ac yn ffurfio ffosydd a gylïau.

Roedd cynllun Kursk yn 1782 yn debyg i gynllun presennol y ddinas. Yn y 1880au, roedd Kursk eisoes yn anheddiad arwyddocaol a phwysig. Roedd yn gartref i 14 o eglwysi, heb gynnwys eglwysi Mynachlog Znamensky. Gwnaed y rhan fwyaf ohonynt o gerrig ac fe'u hadeiladwyd tua'r cyfnod rhwng 1730 a 1786. Erbyn 1782, roedd Kursk yn yr adeiladau bron i gyd o bren. Nid oedd llawer o strydoedd a lonydd yn lletach na rhwng 2.5 i 3 metr. Mae'r unig blasty carreg sydd wedi goroesi wedi'i leoli ar gornel strydoedd Pionerov (Troitskaya gynt) a Gaidar (Zolotarevskaya gynt).

Eglwys Gadeiriol Ein Harglwydded yr Arwydd yn Kursk

Hinsawdd

[golygu | golygu cod]

Cyfnod canoloesol

[golygu | golygu cod]

Mae'r cofnod ysgrifenedig cyntaf o Kursk yn dyddio'n ôl i 1032. Cafodd ei grybwyll fel un o drefi Severaidd gan y Tywysog Igor yn Chwedlau Ymgyrch Igor:

Esgyn ar dy farch chwim, fy mrawd. O'm rhan i, mae'r cyfrwy ar y march yn barod, ger Kursk; o ran fy Nghyrskwyr, maent yn farchogion enwog — wedi eu swatio dan gyrn rhyfel a than helmau, cant eu porthi o fin y waywffon; iddynt hwy y mae'r llwybrau'n gyfarwydd, iddynt hwy y mae'r ceunentydd yn hysbys, y bwâu sydd ganddynt wedi'u clymu'n dynn, y cawell saethau heb eu cau, y cleddyfau wedi'u hogi; a hwythau fel bleiddiaid llwydion yn brasgamu yn y maesydd, gan geisio iddynt eu hunain anrhydedd, ac i'w tywysog ogoniant.[3]

Ysbeiliwyd sedd y dywysogaeth leiaf Rws Kyiv, Kursk gan y Poloftiaid a oedd yn siarad Twrceg yn y 12g a'r 13g. Fe'i dinistriwyd gan y Mongoliaid o dan Batu Khan yn ystod goresgyniad Mongol ar <a href="./Rws_Kyiv" rel="mw:WikiLink">Rws Kyiv</a> tua 1237, ailadeiladwyd y ddinas ddim hwyrach na 1283. Rhwng 1360 a 1508 fe'i rheolwyd gan Ddugiaeth Fawr Lithwania. Ymunodd Kursk â thalaith ganolog Rwsia yn 1508, gan ddod yn dalaith ar y ffin ddeheuol.

Cyfnod modern

[golygu | golygu cod]
Golygfa o Kursk cyn 1917
Y boblogaeth hanesyddol
BlwyddynPobl.±%
1989424,239—    
2002412,442−2.8%
2010415,159+0.7%
2021440,052+6.0%

Fodd bynnag, ganrif yn ddiweddarach, yn 1586, ail-ymddangosodd y ddinas mewn lle newydd[9]. Ym 1596 adeiladwyd caer newydd, a oedd gyda garsiwn o dros 1,300 o filwyr erbyn 1616. Ar ddechrau'r 17g, ymosodwyd dro ar ôl tro ar Kursk gan luoedd Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd yn ystod y Rhyfeloedd rhwng Gwlad Pwyl a Rwsia (yn 1612, 1616, 1617, a 1634), ac ymosodwyd arno hefyd gan y Chaniaeth y Crimea a Horde Nogai yn ystod cyrchoedd caethweision y Crimea-Nogai ar Rwsia, ond ni chipiwyd Kursk erioed.

Ar ddechrau'r 20g, chwaraeodd Kursk ran flaenllaw yn y diwydiant bwyd, ac roedd Kvilitsu AK, un o'r bragdai mwyaf yn Rwsia, yma yn Kursk. Erbyn y 1900au, roedd nifer o fentrau peirianneg yn gweithredu (yn 1914 roedd saith, gan gynnwys un rheilffordd). Roedd amodau gwaith yn ffatrïoedd Kursk yn llym, a streiciau gweithwyr yn aml (er enghraifft, aeth gweithwyr y felin siwgr ar streic o 1901 hyd at 1903). Cymerodd y gweithwyr Kursk ran hefyd yn y streic wleidyddol gyffredinol yn ystod Chwyldro Rwsia 1905.

Ar ôl y chwyldro Bolsiefic Rwsia, daeth y Sofietiaid i rym yn Kursk ar 26 Tachwedd (9 Rhagfyr – arddull newydd) 1917. Ar 28 Tachwedd 1918, sefydlwyd Llywodraeth Gweithwyr a Gwerinwyr Dros Dro Wcráin yn Kursk.[4] Ar 20 Medi 1919, yn ystod Rhyfel Cartref Rwsia, cymerwyd y ddinas drosodd gan filwyr gwrth-Bolsiefaidd dan orchymyn y Cadfridog Denikin; fodd bynnag, ar 19 Tachwedd 1919, adenillwyd Kursk gan y Fyddin Goch.

Milwyr Sofietaidd a thanciau T-34 yn symud ymlaen yn ystod Brwydr Kursk .

Roedd y llywodraeth Sofietaidd yn gweld gwerth i Kursk am ei dyddodion cyfoethog o fwyn haearn a datblygwyd y ddinas yn un o'r prif ganolfannau rheilffordd yn ne-orllewin Rwsia. Ym 1932, ymgorfforwyd Yamskaya Sloboda yn y ddinas. Ym 1935, cafodd Kursk ei system dramiau gyntaf. Rhywbryd yn y 1930au, rhannwyd ardal dinas Kursk yn Ardal Leninsky (lan chwith Afon Kura), Ardal Dzerzhinsky (glan dde Afon Kura) ac Ardal Kirov (Yamskaya Sloboda). Ym 1937 ffurfiwyd Ardal Stalinsky ar gyrion deheuol y ddinas.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, meddiannwyd Kursk gan yr Almaen rhwng 4 Tachwedd 1941 a 8 Chwefror 1943 . Yma, roedd gan y Natsiaid fataliwn llafur gorfodol Iddewig.[5] Yng Ngorffennaf 1943, lansiodd yr Almaenwyr Operation Citadel mewn ymgais i ailgipio Kursk. Yn ystod Brwydr Kursk a ddilynodd, daeth pentref Prokhorovka ger Kursk yn ganolbwynt i ymgysylltiad arfog mawr - Brwydr Prokhorovka - rhwng lluoedd Sofietaidd a'r Almaen: un o'r brwydrau tanc mwyaf mewn hanes. Ymgyrch Citadel oedd ymosodiad mawr olaf yr Almaen yn erbyn yr Undeb Sofietaidd.

Atyniadau

[golygu | golygu cod]

Yr adeilad hynaf yn Kursk yw eglwys Mynachlog y Drindod, sy'n enghraifft dda gyda'i harddull yn nodweddiadol o deyrnasiad cynnar Pedr Fawr. Yr adeilad lleyg hynaf yw'r hyn a elwir yn Siambr Romadanovsky, er iddo gael ei godi yn ôl pob tebyg yng nghanol y 18g, pan ddaeth y teulu Romadanovsky i ben.

Adeiladwyd Byncer ac Amgueddfa'r Orsaf Reoli yn benodol er cof am yr unedau tanc T-34 dewr o Rwsia a ymladdodd ym Mrwydr Kursk, lle mae tanc T-34 yn cael ei arddangos. Ymladdodd dros 6,000 o gerbydau arfog (tanciau ayb) yn agos iawn at ei gilydd mewn ardal agored ger Kursk ym 1943. Roedd y frwydr hon yn atal symudiad yr Almaenwyr i'r Kursk Salient, ac roedd yn drobwynt yn yr Ail Ryfel Byd ar y Ffrynt Ddwyreiniol.

Addysg

[golygu | golygu cod]

Diwylliant a chwaraeon

[golygu | golygu cod]
Rownd derfynol rhwng Dynamo Kursk ac UMMC Ekaterinburg o Rownd Derfynol Pedwar EuroLeague Women 2019

Prifysgol Talaith Kursk yw cartref Cerddorfa Siambr Rwsia, o dan gyfarwyddyd yr arweinydd a'r unawdydd trwmped Sergey Proskurin. Mae'r gerddorfa'n perfformio'n rheolaidd, yn teithio'n rhyngwladol ac wedi cynhyrchu llawer o albymau.[6]

Lleolir Theatr Pushkin yng nghanol y ddinas. Mae ganddi gwmni parhaol yn ogystal â sioeau teithiol sy'n ymweld.

Yn 2016, ehangodd Cynghrair Hoci Merched Rwsia i Kursk, gyda'r clwb newydd Dynamo Kursk.

Mae'r band Little Tragedies yn wreiddiol o Kursk.

Pobl nodedig

[golygu | golygu cod]
  • Yekaterina Avdeyeva (1788–1865), writer
  • Alexey Ivanovich Borozdin, musical therapist
  • Valery Chaplygin, Olympic champion, cyclist
  • Alexander Deyneka, painter, sculptor
  • Nikolay Karamyshev, racing driver
  • Yevgeny Klevtsov, Olympic medalist, cyclist
  • Vyacheslav Klykov, sculptor
  • Kazimir Malevich, painter
  • Pavel A. Pevzner, scientist
  • Alexander Povetkin, Olympic champion, boxer
  • Sergei Puskepalis, actor
  • Alexander Rutskoy, politician
  • Seraphim of Sarov, monk and saint
  • Mikhail Shchepkin, actor
  • Georgy Sviridov, composer
  • The Tolmachevy Twins, singers
  • Little Tragedies, music band

Gefeilldrefi – chwaer ddinasoedd

[golygu | golygu cod]

Mae Kursk wedi'i gefeillio â:[7]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. [1], Belgorod line: description, historical facts, creation.
  2. Мерников А.
  3. The Song of Igor's Campaign, Igor son of Svyatoslav and grandson of Oleg.
  4. Б. М. Бабій. "Тимчасовий Робітничо-Селянський Уряд України" (yn Wcreineg). Cyrchwyd 11 August 2024.
  5. "Jüdisches Arbeitsbataillon Kursk". Bundesarchiv.de (yn Almaeneg). Cyrchwyd 11 August 2024.
  6. "Russian Chamber Orchestra". Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 31, 2008.
  7. "Партнерские связи". kurskadmin.ru (yn Rwseg). Kursk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 3, 2016. Cyrchwyd 2020-02-04.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfryngau perthnasol Kursk ar Gomin Wicimedia