Kirundi
Enghraifft o'r canlynol | iaith, iaith fyw |
---|---|
Math | Rwanda-Rundi |
Label brodorol | Ikirundi |
Enw brodorol | Ikirundi |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | rn |
cod ISO 639-2 | run |
cod ISO 639-3 | run |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin |
Un o ieithoedd Bantw yn Bwrwndi yw Kirundi, Kirundi mewn orgraff Gymraeg, gelwir hefyd yn Rwndi, Rundi, neu Roundi. Mae'n dafodiaith a siaredir yn Rwanda a rhannau cyfagos o Tanzania, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Wganda, yn ogystal ag yn Kenya. Mae Kirundi yn gyd-ddealladwy â Kinyarwanda, iaith genedlaethol Rwanda, ac mae'r ddwy ran yn rhan o'r continwwm tafodieithol ehangach a elwir yn Rwanda-Rundi.[2]
Mae Kirundi yn iaith Bantw a siaredir yn frodorol yn Burundi gan 97% o'r boblogaeth (11,045,000) yn Wganda (246,000), sef cyfanswm o 12.5 miliwn o siaradwyr.[3][4]
Cyd-desun
[golygu | golygu cod]Siaredir yr iaith Kirundi yn frodorol gan yr Hutu, gan gynnwys y Bakiga ac ethnigrwydd cysylltiedig eraill, yn ogystal â'r Tutsi, Twa a Hima ymhlith eraill. Mae tafodieithoedd cyfagos Kirundi yn ddealladwy i'r ddwy ochr â Ha.
Mae Kirundi yn un o'r ieithoedd lle mae rheol Meeussen, rheol sy'n disgrifio patrwm penodol o newid tonyddol yn ieithoedd Bantw, yn weithredol.
Gellir dadlau fod y ddwy iaith. Kirundi a Kinyarwanda, mewn gwirionedd yn un a'r un iaith; gellir cymharu hyn ag Iseldireg o'r Iseldiroedd ac Iseldireg o Wlad Belg, mae'r ddau amrywiad iaith yn perthyn i'r un iaith, er gwaethaf y gwahaniaethau rhanbarthol mewn ynganiad a geirfa.
Yn 2020, sefydlwyd Academi Rundi i helpu i safoni a hyrwyddo Kirundi.[5]
Ffonoleg
[golygu | golygu cod]Tôn
[golygu | golygu cod]Iaith donyddol yw Rundi. Mae dwy dôn hanfodol yn Rundi: uchel ac isel (neu H ac L). Gan fod gan Rundi wahaniaeth ffonemig ar hyd llafariad, pan fo llafariad hir yn newid o dôn isel i dôn uchel fe'i nodir fel tôn codi. Pan fydd llafariad hir yn newid o dôn uchel i dôn isel, fe'i nodir fel tôn sy'n gostwng.[6]
Defnyddir Rundi yn aml mewn ffonoleg i ddarlunio enghreifftiau o reol Meeussen.[7][8] Yn ogystal, cynigiwyd y gall tonau symud gan strwythur mydryddol neu rythmig. Mae rhai awduron wedi ehangu'r nodweddion mwy cymhleth hyn o'r system donyddol gan nodi bod priodweddau o'r fath yn anarferol iawn i system dôn.[9]
Ffonotacteg
[golygu | golygu cod]Mae strwythur sillafau yn Rundi yn cael ei ystyried yn CV, hynny yw heb unrhyw glystyrau, dim cytseiniaid coda, a dim cnewyllyn llafariad cymhleth. Cynigiwyd bod dilyniannau sy'n CVV yn y sylweddoliad arwyneb mewn gwirionedd yn CV yn yr adeiledd dwfn gwaelodol, gyda'r gytsain yn cyfuno â'r llafariad gyntaf.[10]
Cytgord cytsain
[golygu | golygu cod]Dangoswyd bod gan Rundi briodweddau cytgord cytsain yn enwedig o ran sibilyddion. Disgrifiodd Meeussen yr harmoni hwn yn ei draethawd ac ymchwilir iddo ymhellach gan eraill.[11] Mae un enghraifft o'r harmoni hwn yn cael ei sbarduno gan /ʃ/ a /ʒ/ ac mae'n targedu'r set o /s/ a /z/ yn y sillafau bonyn cyfagos blaenorol.
Defnydd swyddogol a Kirundi heddiw
[golygu | golygu cod]Cydnabuwyd Kirundi yn iaith swyddogol yn Burundi gan Gyfansoddiad Teyrnas Burundi ym 1962. Yn unol â'r cyfansoddiad, ysgrifennwyd llawer o orchmynion llywodraeth Burundiaidd, yn enwedig y rhai a argraffwyd yn y Bulletin Officiel du Burundi o 1962 i 1963, yn Ffrangeg a Kirundi. Wedi i'r cyfansoddiad gael ei atal yn 1966, parhaodd Kirundi yn iaith swyddogol de facto yn y wlad, er i'w defnydd yn nogfennau'r llywodraeth leihau.[12] Ym 1972 mabwysiadwyd Kirundi yn iaith swyddogol addysgu yn ysgolion cynradd Burundian.[13]
Prin yw'r testun yn yr iaith. Ceir peth defnydd ohono gan gyrff rhyngwladol er mwyn lledaenu negeseuon i wella iechyd y trigolion, er enghraiff, fideo addysgol am colera.[14] neu wyboaeth ar iechyd meddwl a gynhyrchwyd gan UNHCR (Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig).[15]
Gwefannau newyddion a radio
[golygu | golygu cod]Mae holl bapurau newydd y wlad yn y Ffrangeg. Y papur (a'r wefan) newyddion fwyaf boblogaidd y Iwacu. ("ein cartref" yn Kirundi/Kiniarwanda) Mae'r ysgrifen i gyd yn Ffrangeg ond cynhwysir cyfweliadau yn Kirundi (er, gyda throsleisio ac isdeitlo yn Ffrangeg).[16]
Serch hynny, ymddengys bod canran dda, os nad mwyafrif, gorsafoedd radio Bwrwndi yn yr iaith frodorol er bod Ffrangeg yn dal i fod yn iaith ar gyfer trafod newyddion a diwylliant o bwys.[17]
Ceir cerddoriaeth yn yr iaith yn fyw ac ar gwefannau fel Youtube gyda fideo y gân Burundi gan y grŵp Amagaba yn denu dros filiwn o wylwyr erbyn Gorffennaf 2023."Burundi - Amagaba (Official Video)". Amagaba club. 2018. Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2023.</ref>
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Ntihirageza, J. (1993) Kirundi Palatization and Sibilant Harmony : Implications for Feature Geometry. Master thesis, Southern Illinois University, Carbondale, Illinois.
- Philippson, G. (2003) Tone reduction vs. metrical attraction in the evolution of Eastern Bantu tone systems. INALCO. Paris.
- Sagey, E. (1986) The Representation of Features and Relations in Non-Linear Phonology. Doctoral dissertation, MIT, Cambridge, Mass.
- Verdoodt, A. (2011). "Social and Linguistic Structures of Burundi, a Typical 'Unimodal' Country". Language and Society: Anthropological Issues (arg. reprint). Walter de Gruyter. ISBN 9783110806489.
- Weinstein, Warren (1976). Historical Dictionary of Burundi. Metuchen: Scarecrow Press. ISBN 9780810809628.
- Zorc, R. D. & Nibagwire, L. (2007) Kinyarwanda and Kirundi Comparative Grammar. Dunwoody Press. Hyattsville.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/, adalwyd 23 Ebrill 2022
- ↑ Ethnologue, 15th ed.
- ↑ "Rundi Language / Joshua Project" (yn Saesneg). joshuaproject.net. Cyrchwyd 2023-07-10.
- ↑ "Glottolog 4.4 - Rundi" (yn Saesneg). glottolog.org. Cyrchwyd 2023-07-10.
- ↑ Rigumye, M. "Longtemps attendue, l'Académie Rundi ouvre sous peu – IWACU". www.iwacu-burundi.org. Cyrchwyd 2021-09-10.
- ↑ de Samie 2009
- ↑ Myers 1987
- ↑ Phillipson 2003
- ↑ Goldsmith & Sabimana 1989
- ↑ Sagey 1986
- ↑ Ntihirageza 1993
- ↑ Verdoodt 2011, t. 515.
- ↑ Weinstein 1976, t. 89.
- ↑ "The Story of Colera". Global Health Media. Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2023.
- ↑ "Mental Health GAP Humanitarian Intervention Guide (Kirundi version)". UNHCR. Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2023.
- ↑ "Fait du jour: Pénurie sévère d'eau dans la zone de Cibitoke". Iwacu Web TV. 9 Gorffennaf 2023.
- ↑ https://en.wikipedia.org/wiki/Mass media in Burundi