Kickstarter
Enghraifft o'r canlynol | public-benefit corporation, crowdfunding platform, cymuned arlein |
---|---|
Iaith | Saesneg |
Dechrau/Sefydlu | 28 Ebrill 2009 |
Lleoliad | Unol Daleithiau America |
Sylfaenydd | Perry Chen, Yancey Strickler, Charles Adler |
Pencadlys | 58 Kent Street |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://www.kickstarter.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llwyfan ariannu torfol ydy Kickstarter.[1] Nod y cwmni yw rhoi hwb i brosiectau creadigol.[2] Dywed Kickstarter eu bod wedi derbyn dros $1 biliwn mewn addewidion ariannol a hynny gan 5.7 miliwn o fuddsoddwyr ar gyfer 135,000 o brosiectau cerdd, ffilm, sioeau llwyfan, comics, newyddiadaeth, gemau fideo a phrosiectau yn ymwneud â bwyd.[3]
Mae'r 'buddsoddwyr' yn eu tro'n derbyn gwobrau am gefnogi'r mentrau.[4] Gellir olrhain y cysyniad gwreiddiol sydd y tu ôl i'r noddi celfyddydol hwn i fodel lle mae noddwyr yn tanysgrifio'n uniongyrchol gyda'r artist neu'r artistiaid er mwyn eu cefnogi'n ariannol.[5]
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Kickstarter ar 28 Ebrill 2009 gan Perry Chen, Yancey Strickler, a Charles Adler.[6] Galwodd Time y gwasanaeth "y dyfeisiad gorau yn 2010"[7] a'r "Wefan orau yn 2011".[8] Ymhlith y cefnogwyr mae Union Square Ventures ac "angylion" fel Jack Dorsey, Zach Klein a Caterina Fake.[9] Yn Greenpoint, Brooklyn mae pencadlys y cwmni.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ""Kickstarter crowdfunding site officially launches in Canada"". The Canadian Press. 10 Medi 2013. Cyrchwyd 14 Hydref 2013.
- ↑ Gannes, Liz (29 Mai 2010). "Kickstarter: We Don't Have Anything Against Celebrity Projects". All Things D.
- ↑ "OMG", Kickstarter; adalwyd 26 Rhagfyr 2022
- ↑ Walker, Rob (5 Awst 2011). "The Trivialities and Transcendence of Kickstarter". New York Times Magazine.
- ↑ Garber, Megan (29 Mehefin 2013). "Kickstarters of Yore: Mozart, Lady Liberty, Alexander Pope". The Atlantic.
- ↑ Wauters, Robin (April 29, 2009). "Kickstarter Launches Another Social Fundraising Platform".
- ↑ Snyder, Steven James (11 Tachwedd 2010). "The 50 Best Inventions of 2010". Time. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-17. Cyrchwyd 20 Mehefin 2012.
- ↑ McCracken, Harry (16 Awst 2011). "The 50 Best Websites of 2011". Time. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-24. Cyrchwyd 20 Mehefin 2012.
- ↑ Kafka, Peter. "Kickstarter Fesses Up: The Crowdsourced Funding Start-Up Has Funding, Too". All Things D. Dow Jones & Company Inc. Cyrchwyd 7 Chwefror 2012.