Joi Ito
Joi Ito | |
---|---|
Ganwyd | 19 Mehefin 1966 Kyoto |
Man preswyl | Boston |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Japan |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ymgyrchydd, entrepreneur, venture capitalist, blogiwr, peiriannydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | OII Lifetime Achievement Award, IRI Medal, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America |
Joichi Ito (Japaneg: 伊藤穰一) (genwyd 19 Mehefin 1966). Cafodd Joi Ito ei eni yn Japan, ond cafodd o ei magu a'i addysgu yn Unol Daleithiau America. Actifydd, entrepreneur a chyfalafwr mentro ydy o. Mae o'n gweithio efo Technorati a Six Apart Japan, ac yn aelod o fyrddau Creative Commons a Socialtext. Sylfaenydd a CEO cwmni cyfalaf mentro Neoteny Co. Ltd ydy o, ac mae o'n cyfrannu at Metroblogging. Ym mis Hydref, 2004, ymaelododd â bwrdd ICANN a dechreuodd weitho efo nhw yn Rhagfyr yr un flwyddyn.
Mae Ito wedi cael llawer o gydnabyddiaeth am ei ran fel entrepreneur sy'n canolbwyntio ar y rhyngrwyd a cwmnïau technoleg. Mae o wedi sefydlu, ymhlith cwmnïau eraill, PSINet Japan, Digital Garage ac Infoseek Japan. Mae o'n cadw blog, wiki a sianel IRC.
Cafodd Ito ei eni yn Kyoto, Japan. Symudodd o efo ei deulu i Michigan yn yr Unol Daleithiau pan oedd yn bedair oed. Deng mlynedd ymlaen, dychwelodd i Siapan pan dechreuodd ei fam gweithio fel Llywydd ar gyfer is-gwmni Japanaidd Energy Conversion Devices, Inc.