John Wilkinson
John Wilkinson | |
---|---|
Ganwyd | 1729 Bridgefoot |
Bu farw | 14 Gorffennaf 1808 Bradley |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | dyfeisiwr, metelegwr, person busnes |
Tad | Isaac Wilkinson |
Mam | Mary Johnson |
Priod | Ann Maudesley |
Metelegwr a dyfeisiwr o Loegr oedd John Wilkinson (1728 - 14 Gorffennaf 1808).
Cafodd ei eni yn Bridgefoot yn 1728, yn fab i Isaac Wilkinson. Ym 1748, adeiladodd ffwrnais yn Bradley, ger Wolverhampton. Erbyn 1772 roedd o wedi prynu plas a stad Bradley ac wedi estyn ei waith haearn yno. Erbyn 1763, roedd o, yn cyweithio efo William Wilkinson, ei frawd, wedi cymyd drosodd Gwaith Haearn y Bers, gwaith ei dad Isaac Wilkinson. Roedd ganddynt bartneriaeth efo Matthew Boulton a James Watt, gwneuthwyr peiriannau stêm. Mynnodd Boulton a Watt bod eu cwsmeriaid yn defnyddio cynnyrch Wilkinson wrth adeiladu’r peiriannau. Daeth eu perthynas i ben ar ôl i Wilkinson adeiladu copi o’r peiriannau Boulton a Watt heb ganiatâd.[1][2] Ym 1792, prynodd Wilkinson Stad Brymbo i greu gwaith haearn newydd i ddisodli’r Bers.[2]
Crëwyd Wilkinson peiriant i greu magneli mwy effeithiol a diogel, ac yn hwyrach, ffordd o greu rhigolau tu mewn i fagneli, i wella’u perfformiad. Lansiodd gych haearn ar Afon Hafren ym 1787.[1]
Bu farw yn Bradley ar 14 Gorffennaf, 1808 a chafodd ei gladdu mewn arch haearn.[1]