Jean de Vienne
Jean de Vienne | |
---|---|
Ganwyd | 1341 Dole |
Bu farw | 25 Medi 1396 o lladdwyd mewn brwydr Nikopol |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc |
Galwedigaeth | marchog |
Gwobr/au | Knight of the Order of the Collar |
Milwr a llynghesydd o Ffrainc yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd oedd Jean de Vienne (1341 – 25 Medi 1396).
Ganed ef yn Dole, Jura. Gwnaed ef yn farchog yn 21 oed. Yn 1373, gwnaeth Siarl V, brenin Ffrainc ef yn Llynghesydd Ffrainc, a dechreuodd adeiladu llongau ac ad-drefnu'r llynges. Yn 1375, roedd yn arweinydd un o dri corfflu byddin Enguerrand de Coucy yn Rhyfel y Gugler; roedd Owain Lawgoch yn arwain corfflu arall.
Dano ef, ymosododd llynges Ffrainc ar arfordir deheuol Lloegr nifer o weithiau. Yn 1385, glaniodd yn yr Alban gyda 180 o longau, i ymosod ar Loegr o'r gogledd. Wedi marwolaeth Siarl V, nid oedd Siarl VI, brenin Ffrainc yn cymryd cymaint o ddiddordeb yn y llynges, ac ymunodd a chroesgad Sigismund, brenin Hwngari yn erbyn y Twrciaid. Lladdwyd ef ym Mrwydr Nicopolis ym Mwlgaria; cymerwyd Enguerrand de Coucy yn garcharor yn yr un frwydr.