Neidio i'r cynnwys

Jared Harris

Oddi ar Wicipedia
Jared Harris
GanwydJared Francis Harris Edit this on Wikidata
24 Awst 1961 Edit this on Wikidata
Hammersmith Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Prifysgol Duke
  • Ysgol Ganolog Llefaru a Drama
  • Downside School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor teledu, cyfarwyddwr ffilm, actor llwyfan Edit this on Wikidata
TadRichard Harris Edit this on Wikidata
MamElizabeth Rees-Williams Edit this on Wikidata
PriodJacqueline Goldenberg, Emilia Fox Edit this on Wikidata
PartnerTahnee Welch Edit this on Wikidata
PerthnasauAnnabelle Wallis Edit this on Wikidata
Gwobr/auSitges Film Festival Best Actor award Edit this on Wikidata

Actor o Loegr yw Jared Francis Harris (ganwyd 24 Awst 1961), sy'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Lane Pryce ar y gyfres ddrama Mad Men ar AMC, David Robert Jones ar y gyfres ffuglen wyddonol Fringe ar Fox, ac fel y Brenin George VI yn The Crown ar Netflix. Mae hefyd wedi actio rhannau cefnogol sylweddol mewn ffilmiau fel The Curious Case of Benjamin Button (2008), Sherlock Holmes: A Game of Shadows (2011), Lincoln (2012) ac Allied (2016).

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Harris yn Llundain, yn un o dri o feibion i'r actor Gwyddelig Richard Harris, a'i wraig gyntaf, yr actores o Gymraes Elizabeth Rees-Williams. Ei frawd iau yw'r actor Jamie Harris, a'i frawd hŷn yw'r cyfarwyddwr Damian Harris, a'i ddad-cu ar ochr ei fam oedd y gwleidydd David Rees-Williams, Barwn 1st Ogwr.

Enillodd Harris radd BFA gradd o Brifysgol Duke yn 1983.

Cychwynnodd Harris ei yrfa ffilm fel cyfarwyddwr ffilm nodwedd heb ei orffen o'r enw Darkmoor yn 1983 ar gyfer cwmni Prifysgol Duke, Freewater Films. Ei ymddangosiad cyntaf mewn ffilm fel actor oedd yn The Rachel Papers yn 1989. Bu'n chwarae rôl yr Will Robinson hen yn yr addasiad ffilm o'r gyfres deledu Lost in Space. Chwaraeodd Harris rannau  Dr. Charles Ashford ynResident Evil: Apocalypse, Benmont Tench yn ffilm Jim Jarmusch, Dead Man, a cymeriad doppelgänger Kenneth Branagh yn How to Kill Your Neighbors Dog.

Mae rhannau nodedig arall yn cynnwys y Brenin Harri VIII yn addasiad ffilm gyntaf o'r nofel The Other Boleyn Girl. Mae hefyd wedi portreadu Andy Warhol yn I Shot Andy Warhol, a John Lennon yn y ffilm deledu Two of Us. Ym 1998 chwaraeodd Vladimir yn y ffilm ddrama gomedi du Happiness a ysgrifennwyd ac a gyfarwyddwyd gan Todd Solondz. Chwaraeodd y cymeriad surbwch Capten Anderson yn addasiad BBC2 o To the Ends of the Earth; Mac McGrath yn y ffilm Mr. Deeds; Eamon Quinn ar gyfres FX The Riches; a David Robert Jones ar Fringe. Un o'i rannau ffilm fwy diweddar oedd Ulysses S. Grant yn Lincoln a gyfarwyddwyd gan Steven Spielberg.[1] Chwaraeodd Lane Pryce yn Mad Men o 2009 hyd 2012 a dychwelodd i'r gyfres i gyfarwyddo pennod 11 o gyfres 7, a ddarlledodd yn 2015. Mae hefyd wedi portreadu Brenin George VI yn mhenodau cynnar o The Crown.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Priododd Harris ei wraig gyntaf Jacqueline Goldenberg yn 1989; gan ysgaru yn y 1990au cynnar.[2][3] Ar 16 Gorffennaf 2005, priododd yr actores Emilia Fox,[4] merch yr actorion Edward Fox a Joanna David, gan gychwyn y broses ysgaru yn Ionawr 2009;[5] gyda'r ysgariad yn derfynol ym Mehefin 2010. Yna priododd Allegra Riggio, cynllunydd goleuo a chyflwynydd teledu, ar 9 Tachwedd 2013.[6]

Ffilmyddiaeth

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1989 The Rachel Papers Geoff
1992 Far and Away Paddy
1992 The Last of the Mohicans British Lieutenant
1992 The Public Eye Danny the Doorman
1994 Natural Born Killers London Boy
1994 Nadja Edgar
1995 Smoke Jimmy Rose
1995 Dead Man Benmont Tench
1995 Blue in the Face Jimmy Rose
1995 Tall Tale Head Thug Pug
1996 I Shot Andy Warhol Andy Warhol
1996 Gold in the Streets Owen
1997 Fathers' Day Lee
1997 Sunday Ray
1997 Chinese Box William
1997 White Lies Jacob Reese
1998 Happiness Vlad
1998 B. Monkey Alan Furnace
1998 Lost in Space Will Robinson Hynach
1998 Lulu on the Bridge Alvin Shine heb gydnabyddiaeth
1998 Trance Jim
1999 Lush W. Firmin Carter
1999 The Weekend John Kerr
2000 Bullfighter Jones
2000 How to Kill Your Neighbor's Dog False Peter
2000 Shadow Magic Raymond Wallace
2001 Perfume Michael
2002 Four Reasons Filmmaker
2002 Mr. Deeds Mac McGrath
2002 Igby Goes Down Russel
2002 Dummy Michael Foulicker
2003 Sylvia Al Alvarez
2003 I Love Your Work Yehud
2004 Ocean's Twelve Basher's Engineer
2004 Resident Evil: Apocalypse Dr. Charles Ashford
2005 The Notorious Bettie Page John Willie
2006 Lady in the Water Goatee Smoker
2006 Cashback Alex Proud heb gydnabyddiaeth
2006 Cracked Eggs Joe Ffilm fer
2007 32A Ruth's Father
2008 The Curious Case of Benjamin Button Captain Mike Enwebwyd — Gwobr Screen Actors Guild ar gyfer Perfformiad Rhagorol gan y Cast mewn Ffilm
2008 From Within Bernard Wilburn
2009 Tales of the Black Freighter Ridley Llais
2010 Extraordinary Measures Dr. Kent Webber
2010 The Ward Dr. Gerald Stringer
2011 Sherlock Holmes: A Game of Shadows Professor James Moriarty
2012 Lincoln Ulysses S. Grant
2013 The Mortal Instruments: City of Bones Hodge Starkweather
2013 The Devil's Violinist Urbani
2014 Pompeii Severus
2014 The Quiet Ones Professor Joseph Coupland
2014 The Boxtrolls Lord Charles Portley-Rind Llais
2015 Poltergeist Carrigan Burke[7]
2015 The Man from U.N.C.L.E. Adrian Sanders
2016 Certain Women Fuller
2016 The Last Face Dr. John Farber
2016 Allied Frank Heslop

Teledu

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1995 New York Undercover Seth Baines Pennod : "The Highest Bidder"
2000 Two of Us John Lennon Ffilm deledu
2003 Without a Trace Father Walker 2 bennod
2003 The Other Boleyn Girl King Henry VIII Ffilm deledu
2005 To the Ends of the Earth Captain Anderson 3 pennod
2006 Coup! Simon Mann Ffilm deledu
2007 Law & Order: Special Victims Unit Robert Morten Pennod: "Svengali"
2007 The Shadow in the North Axel Bellmann Ffilm deledu
2008 The Riches Eamon Quinn 5 pennod
2008–2012 Fringe Dr. David Robert Jones 9 pennod
2009–2012 Mad Men Lane Pryce 26 pennod

Gwobr Screen Actors Guild ar gyfer Perfformiad Rhagorol gan Ensemble mewn Cyfres Ddrama
Enwebwyd—Gwobr Primetime Emmy ar gyfer Actor Cefnogol Rhagorol mewn Cyfres Ddrama
Enwebwyd—Gwobr Screen Actors Guild ar gyfer Perfformiad Rhagorol gan Ensemble mewn Cyfres Ddrama (2011, 2013)
Pennod "Time & Life" (Cyfarwyddwr)

2013 Axe Cop King of England Llais

Pennod : "An American Story"

2015–2016 The Expanse Anderson Dawes 4 pennod
2016 Robot Chicken James Bond Villain Llais

Pennod: "Joel Hurwitz Returns"

2016 The Crown King George VI 7 pennod

Enwebwyd— Gwobr Critics' Choice Television ar gyfer Perfformiwr Gwadd Gorau mewn Cyfres Ddrama [8]
Enwebwyd—Gwobr Satellite ar gyfer Actor Cefnogol Gorau mewn Cyfres, Cyfres Fer neu Ffilm Deledu
I'w Wobrwyo—Gwobr Screen Actors ar gyfer Perfformiad Rhagorol gan Ensemble mewn Cyfres Ddrama

2017 The Terror Francis Crozier[9] Cyfres fer

Dramâu

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Cynhyrchiad Rhan Lleoliad Nodiadau
1991 Henry IV, Rhan 1 a Rhan 2 Henry "Hotspur" Percy The Public Theater
1992 'Tis Pity She's a Whore
Soranzo The Public Theater
1995 Ecstasy Len John Houseman  Theater
1996 King Lear Edmund The Public Theater
2001 More Lies About Jerzy

Jerzy Kosiński Vineyard Theatre
Hamlet Tywysog Hamlet Shakespeare Theatre of New Jersey
2003 Humble Boy
Felix Humble Manhattan Theatre Club
2005 Les Liaisons Dangereuses Vicomte de Valmont Playhouse Theatre, Llundain
2006 Period of Adjustment

Ralph Bates Almeida Theatre

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Boedeker, Hal (17 Tachwedd 2012). "'Lincoln': Look at all those TV actors; did you love the surprise?". Orlando Sentinel. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-23. Cyrchwyd 2017-03-10.
  2. "Person Page".
  3. Maureen Paton (22 Tachwedd 2003). "'Dad loved the anarchy that children bring'". Telegraph.co.uk. More than one of |author= a |last= specified (help)
  4. "The Fox Club". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-10. Cyrchwyd 1 Ionawr 2009.
  5. The Curious Benjamin Button Divorce, TMZ.com, 13 Ionawr 2009.
  6. "Jared Harris Marries Allegra Riggio". PEOPLE.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-11. Cyrchwyd 2017-03-10.
  7. Jen Yamato. "Jared Harris Joins 'Poltergeist' Reboot". Deadline. More than one of |author= a |last= specified (help)
  8. "Critics' Choice Television Awards: HBO Leads 22 Nominations". Indie Wire. November 14, 2016. Cyrchwyd November 14, 2016.
  9. Stanhope, Kate (September 29, 2016). "Jared Harris to Star in AMC Anthology Series 'The Terror'". THR. Cyrchwyd September 29, 2016.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]