James Abercromby, Barwn 1af Dunfermlin
James Abercromby, Barwn 1af Dunfermlin | |
---|---|
Ganwyd | 7 Tachwedd 1776 Tullibody |
Bu farw | 17 Ebrill 1858 Midlothian |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, bargyfreithiwr |
Swydd | Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, Barnwr-Adfocad Cyffredinol y Lluoedd Arfog, Meistr yr Arian, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Chwigiaid |
Tad | Ralph Abercromby |
Mam | Mary Abercromby, Barwnes 1af Abercromby |
Priod | Mary Anne Leigh |
Plant | Ralph Abercromby, 2nd Baron Dunfermline |
Perthnasau | Alexander Abercromby, Robert Bruce, Lord Kennet |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin |
Gwleidydd a bargyfreithiwr o'r Alban oedd James Abercromby, Barwn 1af Dunfermline (7 Tachwedd 1776 - 17 Ebrill 1858). Gwasanaethodd fel Llefarydd Tŷ'r Cyffredin rhwng 1835 a 1839.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Roedd Abercromby yn drydydd mab y Cadfridog Syr Ralph Abercromby, a fu farw ym Mrwydr Alexandria, a Mary, Barwnes 1af Abercromby, merch John Menzies o Fernton, Swydd Perth. Roedd yn frawd iau i George Abercromby, 2il Farwn Abercromby a Syr John Abercromby a brawd hŷn Alexander Abercromby. Cafodd ei addysgu yn yr Ysgol Uwchradd Frenhinol, Caeredin ac Eglwys Crist, Rhydychen.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Galwyd Abercrombie i'r bar yn Lincoln's Inn ym 1801 Daeth yn gomisiynydd methdaliad ac yn ddiweddarach penodwyd ef yn stiward ystadau Dug Swydd Dyfnaint.
Gyrfa Wleidyddol
[golygu | golygu cod]Eisteddodd Abercromby fel Aelod Seneddol Chwigiaid etholaeth Midhurst rhwng 1807 a 1812 ac ar etholaeth Calne rhwng 1812 a 1830. Cyflwynodd dau gynnig seneddol i geisio gwella Cynrychiolaeth Caeredin yn y senedd. Derbyniodd lawer o gefnogaeth ond ni wnaed unrhyw newid hyd Ddeddf Diwygio 1832. Ym 1827 cafodd ei urddo'n aelod o'r Cyfrin Gyngor a phenodwyd ef yn Farnwr Eiriolwr Cyffredinol (prif farnwr llysoedd y lluoedd arfog) gan George Canning, swydd a ddaliodd hyd 1828, y misoedd olaf yn llywodraeth yr Arglwydd Goderich.[2]
Ym 1830 gwnaed Abercromby yn Arglwydd Brif Farwn Llys y Trysorlys yn yr Alban, swydd a gadwodd hyd 1832, pan ddiddymwyd y swydd. Derbyniodd bensiwn o £2,000 y flwyddyn. Ym 1832 dychwelodd i Dŷ’r Cyffredin fel un o'r ddau aelod dros Gaeredin, yr oedd eu cynrychiolaeth bellach wedi cynyddu o un i ddau aelod. Ym mis Gorffennaf 1834 aeth i gabinet yr Arglwydd Melbourne fel Meistr y Bathdy,[3] ond dim ond hyd fis Tachwedd yr un flwyddyn y daliodd y swydd, pan syrthiodd llywodraeth y Chwigiaid.
Ystyriwyd Abercromby ar gyfer swydd llefarydd Tŷ'r Cyffredin gan ei blaid ar gyfer etholiad 1833, ond dewiswyd Edward Littleton yn ei le yn y pen draw. Fodd bynnag, yn etholiad 1835 cafodd ei ddewis eto yn ymgeisydd y Chwigiaid a fu'n llwyddiannus. Parhaodd yn y swydd hyd 1839. Ar ei ymddeoliad fe'i ddyrchafwyd i'r bendefigaeth fel y Barwn Dunfermline, o Dunfermline yn Swydd Fife.[4]
Ar ôl iddo ymddeol parhaodd Abercromby i ymddiddori mewn materion cyhoeddus, yn benodol y rhai a oedd yn ymwneud â dinas Caeredin. Roedd yn un o sylfaenwyr yr Ysgol Ddiwydiannol Unedig ar gyfer cefnogi a hyfforddi plant amddifad. Ym 1841 etholwyd ef yn Ddeon y Gyfadran ym Mhrifysgol Glasgow. Ysgrifennodd hefyd gofiant i'w dad, a gyhoeddwyd ym 1861 ar ôl ei farwolaeth.
Teulu
[golygu | golygu cod]Priododd yr Arglwydd Dunfermline â Mary Anne, merch Egerton Leigh, o West Hall, yn High Legh, ar 14 Mehefin 1802.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn Collinton House, Midlothian, ym mis Ebrill 1858, yn 81 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent y Grange, Caeredin. Olynwyd ef yn y farwniaeth gan ei fab, Syr Ralph Abercromby, KCB.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ James Abercromby, Barwn 1af Dunfermlin - Bywgraffiadur Rhydychen
- ↑ James Abercromby, Barwn 1af Dunfermline - Gwefan History of Parliament
- ↑ "University of Glasgow :: Story :: Biography of James Abercromby 1st Baron Dunfermline". www.universitystory.gla.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-20. Cyrchwyd 2020-10-17.
- ↑ Thorne, J. O.; Collocott, T. C., gol. (1984). Chambers biographical dictionary. Caeredin: Chambers. ISBN 0-550-16010-8. OCLC 13665413.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Henry Watkin Williams-Wynn William Plunket |
Aelod Seneddol dros Midhurst 1807 – 1812 |
Olynydd: Thomas Thompson George Smith |
Rhagflaenydd: Joseph Jekyll Henry Smith |
Aelod Seneddol dros Calne 1812 – 1830 |
Olynydd: Syr James Macdonald Thomas Babington Macaulay |
Rhagflaenydd: Robert Adam Dundas |
Aelod Seneddol dros Caeredin 1832 – 1839 |
Olynydd: Syr John Campbell Thomas Babington Macaulay |