Howel Harris
Howel Harris | |
---|---|
Ganwyd | 23 Ionawr 1714 Talgarth |
Bu farw | 1773 Talgarth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pregethwr |
Cysylltir gyda | Daniel Rowland |
Un o arloeswyr y Diwygiad Methodistaidd oedd Howel Harris (23 Ionawr 1714 – 21 Gorffennaf 1773). Roedd yn frodor o Drefeca ym Mrycheiniog (Powys erbyn heddiw).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Bu yn Academi Llwyn-lwyd tan ei fod yn 17 oed. Bu wedyn yn ysgolfeistr ar ysgolion Llangors, Llangasty a Talgarth.
Yn y cyfnod rhwng Sul y Blodau 1735, pan fu'n gwrando ar bregeth Ficer Talgarth, a'r Sulgwyn cafodd droedigaeth. Fe fu yn gyfrifol am gychwyn y Seiat oedd mor bwysig i'r Methodistiaid. Roedd y rhai a oedd dan ddylanwad Howel yn dod at ei gilydd i astudio'r Beibl ac i drafod y ffordd Gristnogol o fyw. Yn 1737 cyfarfu am y tro cyntaf â Daniel Rowland, Llangeitho.
Ei freuddwyd ef oedd sefydlu Teulu Trefeca. Gwahoddodd nifer o bobl i ddod i fyw i Drefeca. Roedd rhai yn gweithio ar y tir neu wrth eu crefft megis gwneud basgedi, gwaith lledr, tyrnio, rhwymo llyfrau, argraffu a nyddu. Roedd pawb yn dod at ei gilydd dair gwaith y dydd i gydaddoli.
Er na bu i freuddwyd 'Teulu Trefeca' wireddu'n llawn, fe sefydlwyd Coleg Trefeca ar safle i gartref gan ddod yn ganolfan ddiwinyddol bwysig i Fethodistiaeth Cymru a'r Eglwys Bresbyteraidd Cymru hyd at ddechrau'r 20g. Mae'r adeiladau bellach yn ganolfan grefyddol a chynhadledd.
Mae wedi ei gladdu wrth yr allor yn Eglwys Talgarth, yn yr hen Sir Frycheiniog.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- M.H. Jones (gol.), The Trevecka Letters (1932)
- Geoffrey F. Nuttal, Howell Harris (1963)
- Gomer M. Roberts, Portread o Ddiwigiwr (1969)
- idem (gol.), Selected Trevecka Letters 1742-47 (1956)
- Geraint Tudur, 'Papurau Howell Harris', yn Cof Cenedl XVI, Gwasg Gomer, 2001.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]