Howard Marks
Howard Marks | |
---|---|
Ganwyd | Dennis Howard Marks 13 Awst 1945 Mynyddcynffig |
Bu farw | 10 Ebrill 2016 Leeds |
Man preswyl | Palma de Mallorca, Leeds |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, hunangofiannydd, llenor, deliwr cyffuriau, arlunydd |
Plant | Amber Marks |
Gwefan | http://howardmarks.name/ |
Daeth Dennis Howard Marks, neu Mr. Nice (13 Awst 1945 – 10 Ebrill 2016)[1] yn ddrwg-enwog fel smyglwr hashish rhyngwladol trwy nifer o achosion llys â phroffil uchel, cysylltiadau tybiedig gyda grŵpiau megis MI6, yr IRA, a'r Mafia, a'i euogfarniad yn y pen draw gan Weinyddiaeth Gorfodaeth Cyffuriau Americanaidd.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd Marks ym Mynydd Cynffig, ger Pen-y-bont ar Ogwr Mynychodd Ysgol Ramadeg y Garw a Coleg Balliol, Rhydychen rhwng 1964 a 1967 i astudio Gradd (B.A., Oxon) Gwyddoniaeth Naturiol, Ffiseg cyn astudio ym Mhrifysgol Llundain rhwng 1967 ac 1968 (graddiodd o'r Athrofa Ffiseg). Dychwelodd i Balliol, Rhydychen i astudio Hanes ac Athroniaeth (Dip. H.Ph. Sc.) rhwng 1968 a 1969, ac yna i Brifysgol Sussex i astudio Athroniaeth Gwyddoniaeth rhwng 1969 a 1970 (M.A., Oxon).
Cymraeg yw mamiaith Howard Marks[2] ond nid yw'n ystyried ei Gymraeg ysgrifenedig yn gwbl rhugl.[3]
Gyrfa smyglo cyffuriau
[golygu | golygu cod]Fe dreuliodd saith mlynedd mewn carchar ym Mhenydfa'r Unol Daleithiau, Terre Haute. Yn ystod ei yrfa smyglo, honnir iddo wrthod defnyddio trais a gwrthododd ddelio mewn cyffuriau caled.
Bywyd ar ôl y carchar
[golygu | golygu cod]Ers ei ryddhau o'r carchar, mae Marks wedi cyhoeddi hunangofiant, Mr Nice (Secker and Warburg, 1996), a ddaeth yn werthwr-gorau, ac sydd wedi cae ei gyfieithu i nifer o ieithoedd. Ynghyd â Mr Nice, mae hefyd wedi casglu antholeg The Howard Marks Book of Dope Stories (Vintage, 2001) ac yn fwy diweddar, dilyniant i'w hunangofiant; Señor Nice: Straight Life From Wales to South America. Yn 2003, cyhoeddodd un o bartneriaid Howard yn y 'movement of beneficial herbs industry', Phil Sparrowhawk hunangofiant ei hun, a ysgrifennwyd gyda Martin Knight, Grass, (Mainstream 2003). Mae Marks yn ymgyrchydd dros gyfreithloni cannabis ac mae'n teithio'r byd fel sioe un dyn. Ymddangosodd hefyd yn y rhaglen ddogfen Stoned in Suburbia a ddarlledwyd ar Sky One yng ngwledydd Prydain.
Sefodd Howard Marks fel ymgeisydd ar gyfer Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig yn 1997, dros fater sengl yr ymgyrch i gyfreithloni cannabis. Ymgeisiodd am bedair sedd ar unwaith: De Norwich (yn erbyn yr ysgrifennydd cartref i ddod Charles Clarke), Gogledd Norwich, Castell-nedd a Southampton Test. Enillodd bleidlais ar gyfartaledd o 1%.
Arweiniodd hyn at ffurfiad y Legalise Cannabis Alliance (LCA) gan Alun Buffry yn 1999.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Erbyn hyn mae'n byw yn Palma de Mallorca. Estraddodwyd ef a'i gyn-wraig erbyn hyn, Judy Marks, o Mallorca, Sbaen i Florida. Mae ganddynt dri o blant; Amber, Francesca a Patrick. Mae ganddo hefyd ferch hŷn, Myfanwy, o berthynas pum mlynedd gyda Rosie Lewis. Mae Judy Marks hefyd wedi ysgrifennu hunangofiant o'u bywyd gyda'i gilydd, Mr Nice and Mrs Marks, a gyhoeddwyd gan Ebury Press yn 2006.
Yn 2015 canfuwyd fod ganddo ganser anwelladwy o'r coluddyn a bu farw yn Ebrill 2016.[1]
Cyfeirnodau yn niwylliant poblogaidd
[golygu | golygu cod]- Gwnaeth Howard Marks ymddangosiad cameo yn y ffilm Human Traffic, yn disgrifio 'gwleidyddiaeth sbliff'.
- Gwmaeth ymddangosiad cameo arall yn y gomedi sefyllfa Germination ar MTV UK, sydd yn dilyn dau flatmate sy'n delio cyffuriau,[4].
- Ef yw'r Diafol yn Dirty Sanchez: The Movie
- Mae'n destun i'r gân Hangin' with Howard Marks gan y Super Furry Animals, a ryddhawyd ar eu halbwm Fuzzy Logic. Ymddangosa Marks ar y clawr mewn amryw o guddwisgoedd - lluniau pasbost honedig o'i oes fel trafnidiwr cyffuriau. Daethant yn ffrindiau yn ddiweddarach, gan haeddu sôn yn ei hunangofiant.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Kevin Rawlinson (10 Ebrill 2016). 'Mr Nice' Howard Marks dies aged 70. The Guardian. theguardian.co.uk.
- ↑ Marks, Howard. Mr Nice (Vintage, 2010), t. 26. ("For the first five years of my life, I spoke only Welsh.")
- ↑ Gareth Miles (25 Chwefror 2010). Howard Marks a Fi. BBC Cymru. "ymddiheurai Howard nad oedd ei Gymraeg ysgrifenedig yn ddigon rhywiog iddo allu dweud dim o bwys"
- ↑ Top Buzzer
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- howardmarks.co.uk Archifwyd 2014-06-29 yn y Peiriant Wayback
- Adolygiad o Mr. Nice