Helmut Kohl
Helmut Kohl | |
---|---|
Llais | Helmut Kohl voice.ogg |
Ganwyd | Helmut Josef Michael Kohl 3 Ebrill 1930 Friesenheim |
Bu farw | 16 Mehefin 2017 Oggersheim |
Man preswyl | Oggersheim |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Weimar, yr Almaen Natsïaidd, Gorllewin yr Almaen, yr Almaen |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | gwleidydd, hanesydd, gwyddonydd gwleidyddol, Canghellor yr Almaen |
Swydd | Canghellor Ffederal, Minister-President of Rhineland-Palatinate, Aelod o Bundestag yr Almaen, Member of Landtag of Rhineland-Palatinate, leader of the Christian Democratic Union, Chairman of the CDU/CSU Bundestag fraction, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen |
Taldra | 195 centimetr |
Pwysau | 150 cilogram |
Plaid Wleidyddol | Christian Democratic Union |
Tad | Hans Kohl |
Mam | Cäcilie Kohl |
Priod | Maike Kohl-Richter, Hannelore Kohl |
Plant | Walter Kohl, Peter Kohl |
Perthnasau | Wilhelm Renner |
Gwobr/au | Uwch Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, cyflwyniad arbennig, Gwobr-Leo-Baeck, Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Grand Cross of Honor for Services to the Republic of Austria, Gwobr Siarlymaen, Dinesydd anrhydeddus Berlin, Urdd Teilyngdod Baden-Württemberg, Knight of the Order of the White Eagle, Gwobr Eric-M.-Warburg, Urdd y Llew Gwyn, Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Medal Rhyddid yr Arlywydd, European handicraft prize, Gwobr Tywysoges Asturias am Gydweithredu Rhyngwladol, Gwobr Hanns Martin Schleyer, Gwobr Robert Schuman, Dinasyddiaeth anrhydedd Frankfurt am Main, Urdd am Deilyngdod Eithriadol, honorary citizen of Europe, Urdd Fawr y Frenhines Jelena, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Marchog Fawr Groes yn Urdd Llew yr Iseldiroedd, Marchog Uwch Groes Urdd yr Hebog, Uwch groes Urdd Infante Dom Henri, Urdd Croes Terra Mariana, Dosbarth 1af, honorary doctor of the Katholieke Universiteit Leuven, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Caergrawnt, doctor honoris causa of Keiō University, Pipe Smoker of the Year, Uwch Groes Urdd Filwrol Crist, honorary doctorate from the Catholic University of Lublin, honorary doctorate of CEU San Pablo University, Urdd Karl Valentin, honorary doctorate of Taras Shevchenko National University of Kyiv, Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Croes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Croes Uwch Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Uwch Groes Dosbarth 1af Urdd Teilyngdod Gwladwriaeth Ffederal yr Almaen, Point Alpha Prize, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Osgar, Osgar, Franz Josef Strauss Award, Order of Merit of the Federal Republic of Germany, Person y Flwyddyn y Financial Times, honorary citizen of Gdańsk, Uwch Groes Urdd Wissam El Alaouite, Q126325594 |
Gwefan | http://www.helmut-kohl.de/ |
llofnod | |
Gwleidydd Almaenig yw Helmut Josef Michael Kohl (3 Ebrill 1930 – 16 Mehefin 2017). Roedd yn Ganghellor yr Almaen o 1982 hyd 1998, yn y cyfnod pan ad-unwyd yr Almaen.
Ganed ef yn Ludwigshafen am Rhein, yn fab i Hans Kohl, o deulu Catholig. Bu farw ei frawd hynaf yn yr Ail Ryfel Byd. Yn 1950, aeth i astudio'r gyfraith yn Frankfurt am Main, yna yn 1951 i Heidelberg, lle newidiodd ei gwrs i astudio busnes.
Ymunodd a plaid canol-dde y CDU, a daeth yn arweinydd y blaid yn Rheinland-Pfalz ac yn brif weinidog y dalaith. Yn 1973, daeth yn arweinydd y CDU yn genedlaethol. Yn etholiad 1976, collodd i Helmut Schmidt o blaid yr SPD, er iddo gael 48% o'r bleidlais. Daeth yn Ganghellor ar 1 Hydref 1980.
Roedd yn gredwr cryf mewn undeb Ewropeaidd, a sefydlodd berthynas agos a François Mitterrand, arlywydd Ffrainc. Ar 9 Tachwedd 1989, syrthiodd Mur Berlin. Roedd cryn wrthwynebiad yn rhai o wledydd Ewrop i ad-uno'r Almaen, ond llwyddodd Kohl i'w perswadio.
Collodd etholiad 1998 i'r SDU dan Gerhard Schröder, mewn cynghrair a'r Blaid Werdd, ac ymddiswyddodd fel arweinydd y CDU hefyd.
Rhagflaenydd: Helmut Schmidt |
Canghellor yr Almaen 1982 – 1998 |
Olynydd: Gerhard Schröder |