Hawke's Bay
Math | rhanbarthau Seland Newydd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Hawke Bay |
Prifddinas | Napier |
Poblogaeth | 166,368 |
Cylchfa amser | UTC+12:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Seland Newydd |
Gwlad | Seland Newydd |
Arwynebedd | 14,111 km² |
Yn ffinio gyda | Bae Digonedd, Gisborne District, Manawatū-Whanganui Region, Waikato Region |
Cyfesurynnau | 39.4167°S 176.8167°E |
NZ-HKB | |
Mae Hawke's Bay yn ardal ar arfordir dwyreiniol Ynys y Gogledd, Seland Newydd. Enw Maori yr ardal yw Te Matau-a-Māui[1]. Enwyd yr ardal gan Captain James Cook i anrhydeddu’r lyngesydd Edward Hawke.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae’r bae ei hyn yn estyn am 100 cilomedr o Benrhyn Mahia i Cape Kidnappers. Mae’r ardal yn cynnwys tir bryniog ger y bae, Afon Wairoa yn y gogledd, Gwastatir Heretaunga ger Hastings yn y De, a’r Bryniau Kaweka a Bryniau Ruahine, gan gynnwys mynydd Taraponui. Mae 5 afon fawr yn llifo i’r bae; Afon Wairoa, Afon Mohaka, Afon Tutaekuri, Afon Ngaruroro ac Afon Tukituki. Mae Llyn Waikaremoana yr un mwyaf yr ardal.
Gweinyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae Hawke’s Bay yn cynnwys yr ardaloedd Wairoa, Hastings, Napier, Canol Hawke's Bay a hefyd Taharua yn ardal Taupo a Ngamatea in ardal Rangitikei.[2][3] Awgrymwyd gan Gomisiwn Llywodraeth Leol ym mis Mehefin 2015 bod bod y 4 ardal Hawke’s Bay yn uno â Cyngor Hawke's Bay ond gwrthodwyd y syniad gan y trigolion mewn pleidlais.[4][5]
Demograffi
[golygu | golygu cod]Poblogaeth Hawke’s Bay
[golygu | golygu cod]1991:138,342
1996:142,791
2001:142,950
2006:147,783
2013:151,179
Prif trefi'r ardal yw Napier, Hastings, Havelock North, Wairoa, Waipukurau, Clive, a Waipawa.
Mae trefi a phentrefi eraill yn Hawke's Bay yn cynnwys:
Diwylliant a hunaniaeth
[golygu | golygu cod]Yn ôl Cyfrif 2018, roedd 75.0% o boblogaeth Hawke’s Bay yn bobl wyn (Pākehā), 27.0% yn Māori, 5.6% yn bobl y Cefnfor Tawel, 5.0% o Asia, a 1.7% eraill. Mae gan rhai mwy nac un ethnigrwydd. Ganwyd 15.9% tramor, o gymharu â 27.1% dros Seland Newydd i gyd. Enw y llwyth Maori leol yw Ngāti Kahungunu.
Nid oedd gan 48.5% unrhyw grefydd; roedd 37.4% yn Gristnogion, ac roedd gan 7.2% grefydd arall, yn ôl Cyfrifiad 2018.
Amaeth
[golygu | golygu cod]Mae gan yr ardal winllannoedd a pherllannau ar dir wastad a chedwir defaid a gwartheg ar y bryniau, ac mae fforestydd. Yn ogystal ag afalau a grawnwin, tyfir pwmpenni, ffa a phys.[9] Plannwyd grawnwin cyntaf yr ardal gan genhadon ynghanol y 19eg ganrif, ac mae gwin coch yn bwysig i’r ardal erbyn hyn.[10] Erbyn 2018, roedd 4681 hectar o winllannoedd a 91 o gynhyrchwyr.[11]
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd diwydiant morfila ar arfordir y bae yn ystod y 19eg ganrif.[12]
Sefydlwyd talaith Hawke’s Bay ym 1858, yn gwahanu oddi wrth dalaith Wellington. Newidiwyd taleithiau Seland Newydd i fod yn Ardaloedd Taleithiol ym 1876.
Roedd daeargryn maint 7.9 yn Hawke’s Bay. Ar 3 Chwefror 1931. Dinistriwyd rhan mawr o Napier a Hastings. Bu farw 256 o bobl. Ailadeiladwyd Napier mewn dull Art Deco. Mae gan Amgueddfa Hawke’s Bay arddangosfa am y daeargryn.
Awyrofod
[golygu | golygu cod]Mae Hawke's Bay yn gartref i safle lansio Rocket Lab ar Benrhyn Mahia, a gwelir lansiadau o [[Arfordir Gofod Seland Newydd, Wairoa.[13]Mae Rocket Lab wedi lansio sawl roced yn flynyddol ers yr un cyntaf, Humanity Star ym mis Ionawr 2018.
Teledu a radio
[golygu | golygu cod]Mae gan yr ardal ei sianel ei hun, TVHB, ac mae sawl gorsaf radio, megis Radio Kahungunu, The Hits 89.5, More FM, Radio Kidnappers a Bay FM yn ogystal â’r sianeli radio a theledu cenedlaethol.
Gwin
[golygu | golygu cod]Cynhyrchir gwin yn Hawke’s Bay, ac mae dwy ŵyl fwyd a gwin yn flynyddol yno, yn denu miloedd o ymwelwyr, llawer ohonynt o dramor[14]
Adloniant
[golygu | golygu cod]Cynhelir Cyngerdd Mission yn Napier yn flynyddol ers 1993 ar Stad Gwinllan Mission yn Taradale. Mae Kenny Rogers, Shirley Bassey, Rod Stewart, The B-52's, Belinda Carlisle, Ray Charles, a Eric Clapton wedi perfformio yno.
Seismigedd
[golygu | golygu cod]Mae’r ardal un o’r mwyaf fywiog yn seismigol yn Seland Newydd ac mae profi dros 50 o ddaeargrynfeydd ers yr 1800au.
Llywodraeth
[golygu | golygu cod]Llywodraethir yr ardal gan Gyngor Rhanbarthol Hawke’s Bay, gyda’i swyddfa yn Napier. Mae 9 aelod, a chynhelir etholiad bob tair blynedd.
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Mae rygbi yn boblogaedd, ac mae’r Hawke's Bay Magpies yn cynrychioli’r ardal, ei chwaraewyr yn dod o’r clybiau lleol. Maent yn chwarae ym Mharc McLean yn Napier. Mae nifer o chwaraewyr nodedig y Crysau Dun yn dod o Hawke’s Bay, gan gynnwys:-
- Cyril Brownlie
- Maurice Brownlie
- Mark Donaldson
- Bryn Evans
- Greg Somerville
- Hikawera Elliot
- Zac Guildford
- Israel Dagg
Mae’r Hawke's Bay Hawks yn cystadlu yng Nghyngrair Genedlaethol Pêl-fasged Seland Newydd.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Cyngor Hawke's Bay
- Gwefan twristiaeth Hawke's Bay
- Gwasanaeth wybodaeth i newydd-defodiad i’r ardal
- An Encyclopaedia of New Zealand, golygydd A. H. McLintock, Wellington, 1966
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Pollock, Kerryn. 'Hawke’s Bay region - Overview'. Te Ara - the Encyclopedia of New Zealand. (gwelwyd 9 Tachwedd 2017)
- ↑ Pollock, Kerryn (15 Tachwedd 2012). "Hawke's Bay region – Local government boundary changes". Te Ara – the Encyclopedia of New Zealand.
- ↑ Pollock, Kerryn (15 Tachwedd 2012). "Hawke's Bay region – Government, education and health". Te Ara – the Encyclopedia of New Zealand.
- ↑ Lunn, Annette (9 June 2015). "Hawke's Bay to amalgamate councils". Newstalk ZB.
- ↑ Henderey, Simon (15 Medi 2015). "Hawke's Bay voters reject five-council amalgamation proposal". The Dominion Post. Cyrchwyd 23 Mawrth 2019.
- ↑ Census 2018
- ↑ "2001 Census". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-29. Cyrchwyd 2021-05-20.
- ↑ "Census". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-10. Cyrchwyd 2021-05-20.
- ↑ Facts: New Zealand Horticulture, 2018[dolen farw]
- ↑ "The-Wine-Library". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-05. Cyrchwyd 2021-06-23.
- ↑ https://www.nzwine.com/media/9567/nzw-annual-report-2018.pdf gwefan nzwine.com
- ↑ Don Grady (1986) Sealers & whalers in New Zealand waters; cyhoeddwyr Reed Methuen, Auckland tud.150;ISBN|0474000508
- ↑ Gwefan visitwairoa.co.nz
- ↑ Gwefan nzherald.co.nz, 13 Tachwedd 2017|