Haf Llewelyn
Haf Llewelyn | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mehefin 1964 Cwm Nantcol |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, athro |
Gwobr/au | Gwobr Tir na n-Og |
Awdures ac athrawes ymgynghorol yw Haf Llewelyn (ganwyd 17 Mehefin 1964) sydd wedi ysgrifennu llyfrau ar gyfer plant ac oedolion.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd a magwyd Haf yng Nghwm Nantcol, Ardudwy, ond erbyn hyn mae hi'n byw yn Llanuwchllyn, ger y Bala. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llanbedr ac Ysgol Uwchradd Ardudwy, Harlech [1]
Bu'n gweithio fel athrawes gynradd, yn ogystal â gweithio ar brosiectau Sgwad 'Sgwennu. Enillodd wobr Tir na n-Og y Cyngor Llyfrau am ei nofel Diffodd y Sêr am hanes Hedd Wyn. Bu'n cymryd rhan mewn nifer o dalyrnau a stompiau dros y blynyddoedd (fel aelod o dîm Talwrn Penllyn) a cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth – Llwybrau, yn 2009. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf i oedolion, Y Graig, yn 2010, a cyhoeddodd ei ail, Mab y Cychwr yn 2012.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- 2013 - Gwobr Tir na n-Og am Diffodd y Sêr
Cyhoeddiadau detholedig
[golygu | golygu cod]- O! Mae Mam yn Flin (Gwasg Gwynedd, 1991)
- Abi-Clec (Gwasg Carreg Gwalch, 2002)
- Stwffia dy ffon hoci! (Gwasg Gwynedd, 2006)
- Llwybrau (Cyhoeddiadau Barddas, 2009)
- Y Graig (Y Lolfa, 2010)
- Llond Drôr o Ddeinosoriaid (Cyhoeddiadau Barddas, 2011)
- Mab y Cychwr (Y Lolfa, 2012)
- Hei Now!, Now! (Gwasg Gomer, 2012)
- Diffodd y Sêr (Y Lolfa, 2013)
- Y Traeth (Y Lolfa, 2016)
- Pwyth (Y Lolfa, 2019)
- Gwenwyn a Gwasgod Felen (Gwasg Carreg Gwalch, 2020)
- Ga' i Fyw Adra? (Gwasg Carreg Gwalch, 2022)
- Dros y Môr a'r Mynyddoedd: Straeon Merched Dewr y Celtiaid (Gwasg Carreg Gwalch, 2023)
- Salem (Y Lolfa, 2023)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Adnabod Awdur: Haf Llewelyn (2014). Cyngor Llyfrau Cymru (2014). Adalwyd ar 22 Medi 2016.