Gwareiddiad
Math | cymdeithas |
---|---|
Y gwrthwyneb | diwylliant cyntefig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Diffinnir gwareiddiad fel cymdeithas neu grŵp diwylliannol dynol a nodweddir gan amaethyddiaeth a phresenoldeb dinasoedd. O'i gymharu a diwylliannau symlach, nodweddir cymdeithas o'r fath yma gan fwy o rannu swyddogaethau rhwng ei haelodau. Yn aml, defnyddir "gwareiddiad" yn yr ystyr o "ddiwylliant"; er enghraifft pan sonir am Wareiddiad yr Inca, mae'r term yn cynnwys holl agweddau diwylliant yr Inca. Ystyrir disgrifio pobloedd fel "anwariaid" yn sarhaus.
Datblygodd gwareiddiadau o ganlyniad i amaethyddiaeth. Dan amodau ffarfriol, gall hyn arwain at gynhyrchu mwy o fwyd nag sydd ei angen ar y pryd. Mae grawnfwyd yn arbennig o bwysig yma, oherwydd gellir ei gadw wrth gefn am gyfnod hir. Gyda bwyd wrth gefn, gall rhai o aelodau'r gymdeithas wneud pethau heblaw cynhyrchu bwyd, a gwelir datblygiad crefftwyr, offeiriaid ac eraill. Ceir trefn gymdeithasol fwy cymhleth, a gwelir datblygiad gwladwriaeth.
Elfen bwysig arall yn y rhan fwyaf o wareiddiadau yw ysgrifennu, a ddatblgwyd gyntaf, hyd y gwyddir, yn Sumer.
Gwareiddiadau hynafol
[golygu | golygu cod]- Sumer, ym Mesopotamia, yn ôl y farn gyffredinol, y gymdeithas gymhleth gyntaf.
- Gwareiddiad Dyffryn Indus
- Yr Hen Aifft
- Groeg yr Henfyd
- Rhufain hynafol
- Elam
- Gwareiddiad y Minoaid
- Tsieina hynafol
- Toltec
- Gwareiddiad yr Astec
- Gwareiddiad y Maya
- Gwareiddiad yr Inca