Georges Bataille
Georges Bataille | |
---|---|
Ffotograff o Georges Bataille (tua 1943). | |
Ganwyd | 10 Medi 1897 Billom |
Bu farw | 9 Gorffennaf 1962 o arteriosglerosis Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llyfrgellydd, llenor, drafftsmon, athronydd |
Adnabyddus am | Q30731296, Q3204046, L'Abbé C, Blue of Noon, The Accursed Share, Q30731391, Q3203417, Story of the Eye, Q30731389, Q16318798, Q30731381, Q3210073 |
Prif ddylanwad | Georg Hegel, Alexandre Kojève, Friedrich Nietzsche, Lev Shestov, Henri Bergson, Karl Marx, Sigmund Freud, Émile Durkheim, Boris Souvarine |
Mudiad | continental philosophy, irrationalism |
Priod | Sylvia Bataille, Diane Kotchoubey de Beauharnais |
Partner | Colette Peignot, Denise Rollin |
Plant | Laurence Bataille, Julie Bataille |
llofnod | |
Athronydd, llenor, a beirniad o Ffrainc oedd Georges Bataille (10 Medi 1897 – 9 Gorffennaf 1962) a fu'n ymwneud ag erotiaeth, cyfriniaeth, ac afresymoldeb yn ei amryw weithiau. Ysgrifennodd nifer o lyfrau, gan gynnwys nofelau, barddoniaeth, ac ysgrifau. Mae ei waith yn cael ei ystyried yn golyn rhwng gwahanol dueddiadau ym meddwl dechrau'r 20g, sef ôl-foderniaeth a dadadeiladaeth.[1]
Ganed ef yn Billom, yn département Puy-de-Dôme yng nghanolbarth Ffrainc, yng nghyfnod y Drydedd Weriniaeth. Fe'i hyfforddwyd yn archifydd yn yr École des Chartes, ysgol baleograffeg ym Mharis. Gweithiodd yn llyfrgellydd ac yn ganoloesydd yn Bibliothèque nationale de France hyd at 1942, a fe'i penodwyd yn geidwad Llyfrgell Orléans ym 1951. Sefydlodd y cylchgrawn llenyddol Critique ym 1946, a byddai'n golygu'r hwnnw am 16 mlynedd, hyd at ei farwolaeth, ym Mharis, yn 64 oed.[2]
Ymhlith ei nofelau mae'r stori erotig Histoire de l'oeil (1928).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Allan Stoekl, "Bataille, Georges (1897–1962)", Encyclopedia of Philosophy (2005). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 6 Rhagfyr 2021.
- ↑ (Saesneg) Georges Bataille. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Rhagfyr 2021.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Paul Hegarty, George Bataille: Core Cultural Theorist (Llundain: SAGE, 2000).
- Athronwyr yr 20fed ganrif o Ffrainc
- Beirdd yr 20fed ganrif o Ffrainc
- Beirdd Ffrangeg o Ffrainc
- Beirniaid llenyddol Ffrangeg o Ffrainc
- Genedigaethau 1897
- Marwolaethau 1962
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o Ffrainc
- Nofelwyr Ffrangeg o Ffrainc
- Pobl o Puy-de-Dôme
- Ysgrifwyr a thraethodwyr yr 20fed ganrif o Ffrainc
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Ffrangeg o Ffrainc