Euzko Gudarostea
Enghraifft o'r canlynol | militia |
---|---|
Rhan o | Spanish Republican Army |
Olynwyd gan | I Cuerpo de Ejército de Euzkadi |
Lleoliad | Bilbo |
Gwladwriaeth | Sbaen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Euzko Gudarostea, neu mewn orgraff mwy diweddar Eusko Gudarostea (Basgeg, yn golygu "Byddin Gwlad y Basg") oedd yr enw a ddefnyddid gan luoedd arfog Llywodraeth Gwlad y Basg yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen.
Ffurfiwyd y fyddin yn nechrau mis Awst 1936, i ymladd yn erbyn byddinoedd Francisco Franco. Roedd y milwyr yn cynnwys cenedlaetholwyr Basgaiss, gyda rhai sosialwyr a chomiwnyddion. Roedd yn cynnwys llynges fechan, ond roedd diffyg awyrennau a magnelau yn anfantais fawr.
Bu'n ymladd yn erbyn lluoedd Franco yn ystod 1936 a 1937. Wedi i gefnogwyr Franco feddiannu talaith Bizkaia, ildiodd y fyddin Fasgaidd i'r Eidalwyr oedd yn ymladd gyda Franco yn Santoña (Cantabria).
Gelwid aelodau'r Euzko Gudarostea yn gudaris ("milwyr" mewn Basgeg). Roedd aelodau ETA yn eu galw eu hunain yn gudaris ar brydiau, ac yn eu hystyried eu hunain fel olynwyr yr Euzko Gudarostea.