Elfed (cwmwd)
Gwedd
Math | cwmwd, cantref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Cantref Gwarthaf |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Afon Gwili |
Yn ffinio gyda | Derllys, Ystlwyf, Peuliniog, Emlyn Is Cuch, Emlyn Uwch Cuch, Mabudrud, Gwidigada |
Cyfesurynnau | 51.899°N 4.332°W |
- Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Elfed.
Cwmwd yng Nghantref Gwarthaf, Dyfed, oedd Elfed. Bu'n rhan o hen deyrnas Dyfed ac wedyn Deheubarth.
Gorweddai ar lannau gorllewinol Afon Gwili yng ngogledd-ddwyrain y cantref gan ffinio â chymydau Derllys, Ystlwyf a Peuliniog yn y cantref hwnnw, i'r de, a gydag Emlyn Is Cuch ac Emlyn Uwch Cuch i'r gogledd, a chymydau Mabudrud a Gwidigada yn y Cantref Mawr a chantref Chantref Cydweli i'r dwyrain. Ei ganolfan bwysicaf oedd Cynwyl Elfed.
Yn y 13g fe'i cyplyswyd â Derllys a Gwidigada gan ffurfio felly ran bwysig o'r Sir Gaerfyrddin yn ddiweddarach.