Neidio i'r cynnwys

Caeredin

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Edinburgh)
Caeredin
ArwyddairNisi Dominus Frustra Edit this on Wikidata
Mathdinas, tref goleg, lieutenancy area of Scotland, Scottish county of city, dinas fawr, sir fetropolitan Edit this on Wikidata
Poblogaeth488,050 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 7 g Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethFrank Ross Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirDinas Caeredin Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd259 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr47 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawWater of Leith, Afon Almond, Afon Forth, Moryd Forth Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau55.9533°N 3.1892°W Edit this on Wikidata
Cod SYGS20000463 Edit this on Wikidata
Cod OSNT275735 Edit this on Wikidata
Cod postEH1-EH13 Edit this on Wikidata
GB-EDH Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethFrank Ross Edit this on Wikidata
Map

Prifddinas yr Alban er 1492 yw Caeredin (Saesneg: Edinburgh;[1] Gaeleg yr Alban: Dùn Èideann;[2] Sgoteg: Embra neu Edinburrae).[3] Saif ar arfordir dwyreiniol y wlad ac ar lan deheuol Moryd Forth. Yma mae Senedd yr Alban, a gafodd ei hail-sefydlu ym 1999. Gyda phoblogaeth o 495,360 in 2011 (cynnydd o 1.9% ers 2010),[4] dyma'r ddinas fwyaf yn Lothian a saif yng nghanol ardal boblog sy'n cynnwys odeutu 850,000 o drigolion.[5]

Caeredin yn yr Alban

Mae Dinas Caeredin yn un o awdurdodau unedol yr Alban. Mae'r ddinas yn enwog am Ŵyl Caeredin, ei chastell hond a'r dathliadau Hogmanay.

Mae enw'r ddinas yn dod o'r Frythoneg Din Eidyn, sef Caer Eidyn. Safai un o amddiffynfeydd y Gododdin ar y lle, efallai yn perthyn i'r brenin Clydno Eiddin, yng nghanol y chweched ganrif. Ar ôl ei goresgyn gan y deyrnas Seisnig Bernicia newidiwyd yr enw i Edin-burh, efallai gyda dylanwad enw Edwin, brenin Northumbria. Ond ni lwyddodd yr Eingl-Sacsoniaid i ymsefydlu dim pellach i'r gogledd na Chaeredin, ac erbyn y 10g roedd y Saeson wedi colli gafael ar yr ardal hon i frenhinoedd yr Alban.

Nodweddion hynod

[golygu | golygu cod]

Dau o nifer o rosod mewn cerigos wedi eu gosod ar wyneb Rose Street, Caeredin yn adlewyrchu daeareg yr ardal. (Llun: Duncan Brown 16/10/2010)

Rhosod cerigos, Rose Street, Caeredin, wedi eu seilio ar ddaeareg yr Alban, 2010

Dyma’r cenadwri a gafodd y daearegydd Ray Roberts gan ei gydweithwyr yn yr Alban am rosod Rose Street, Caeredin (Bwletin 34):

Mike Browne came up with information from a web site."There are eight large pebble mosaics by Maggy Howarth. As well as foot traffic, they were designed to withstand the weight of delivery vans and service vehicles. The mosaics are around 2 metres across and each one is a different variation on the rose design. I found this on a web page trying “mosaic roses" : ‘mosaicists will know the difficulties of hand collecting legally in the UK, not to mention the backache. Cobblestone Designs has been importing stones from the Far East, China and India for several years, primarily for our own use’. So it looks as if the stone came from much further east than Eastern Scotland.[6]

Mae Prince's Street Gardens yn ffordd fawr trwy ganol y ddinas. I'r de i'r ffordd hon mae Castell Caeredin a adeiladwyd uwchben craig clogwyn basalt, sydd yn hen losgfynydd, a'r Hen Dref (Old Town). I'r gogledd i'r ffordd mae Princes Street a'r Dref Newydd (New Town). Dechreuwyd adeiladu Princes Street Gardens ym 1816 ar safle gwern o'r enw Nor Loch a oedd yn llyn cyn hynny.

Roedd safle'r castell yn gaer naturiol, ac mae'r lle wedi cael ei ddefnyddio ers diwedd Oes yr Efydd (tua 850 CC).

Yn ôl adroddiadau Rhufeinig o'r ganrif 1af, roedd gan llwyth y Votadini (Gododdin yr Hen Ogledd) eu canolfan yno ac mae cerdd arwrol o'r enw 'Y Gododdin' (tua 600), a briodolir o'r bardd Aneirin, yn sôn am ryfelwyr yn gwledda yn Neuadd Fawr Din Eidin (Caeredin), wedi cael eu gwahodd yno gan y brenin Mynyddog Mwynfawr.

Hyd heddiw, mae llawer o strydoedd canoloesol a hen adeiladau yn yr Hen Dref. Mae yna lu o strydoedd cul o'r enw close neu wynd a sgwarau i gynnal marchnadoedd. Yn ystod y 1700au roedd tua 80,000 o bobl yn byw yn yr Hen Dref gyda wal cryf o'i chwmpas, ond does dim ond 4,000 yn byw yno heddiw. Dinistriwyd y rhan fwyaf o'r Hen Dref a'i hadeiladau uchel gan dân ym 1824. Bu tân mawr arall ar 7 Rhagfyr, 2002, a ddinistriodd ardal Cowgate o'r Hen Dref, gan gynnwys Llyfrgell AI a rhai o adeiladau eraill Prifysgol Caeredin.

Dechreuwyd adeiladu'r Ddinas Newydd yn ystod y ddeunawfed ganrif ac mae hi'n enghraifft dda iawn o gynllun tref a phensaernïaeth Sioraidd.

Adeiladau a chofadeiladau

[golygu | golygu cod]

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Gefeilldrefi

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Chwiliwch am Caeredin
yn Wiciadur.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. British Place Names; adalwyd 14 Ebrill 2022
  2. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2019-10-03 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 3 Hydref 2019
  3. "Names in Scots", Centre for the Scots Leid; adalwyd 14 Ebrill 2022
  4. "City of Edinburgh factsheet" (PDF). gro-scotland.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-09-15. Cyrchwyd 27 Chwefror 2013.
  5. "Population and living conditions in Urban Audit cities, larger urban zone (LUZ)". Cyrchwyd 24 Mawrth 2013.
  6. Bwletin Llên Natur rhifyn 35