Echuca
Math | tref, ardal a gofnodwyd yn Victoria, Awstralia |
---|---|
Poblogaeth | 15,056 |
Cylchfa amser | UTC+10:00, UTC+11:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Echuca - Moama |
Gwlad | Awstralia |
Arwynebedd | 140.1 km² |
Uwch y môr | 96 metr |
Yn ffinio gyda | Moama, Echuca West, Bamawm, Wharparilla, Koyuga, Echuca Village, Strathallan |
Cyfesurynnau | 36.1333°S 144.75°E |
Cod post | 3564 |
Mae Echuca yn dref ar lannau Afon Murray ac Afon Campaspe yn Victoria, Awstralia. Roedd gan y dref boblogaeth o 14,934 yn 2018. Mae Echuca yn ardal frodorol Yorta Yorta ac mae enw’r dref yn golygu ‘Cymer y dyfroedd’. Mae’r dref yn agos i gymer afonydd Murray, Campaspe, a Goulburn. Echuca yw’r lle agosaf at Melbourne ar Afon Murray. Mae Moama, De Cymru Newydd gyferbyn ag Echuca, ar draws Afon Murray. Mae amgueddfa [1][2] ar lan Afon Murray, sy’n denu twristiaid i’r dref.[3] Adeiladwyd Cei Echuca ym 1865 gan Rheilffordd Victoria. Roedd adeiladu cychod yn bwysig i’r dref ac i fasnach yr afon. Roedd gan Echuca 8 melin llifio, ac adeiladwyd hyd at 240 o stemars olwyn yn flynyddol yn y dref, yn defnyddio coed gwm cochion o fforestydd Barmah, Moira a Perricoota gerllaw.[2] Estynnwyd y cei ym 1877 a 1879 i fod 1.2 cilomedr o hyd, ar 3 lefel i gymhwyso at lefelau gwahanol yr afon. Dymchwelwyd mwyafrif y cei ym 1944.[4]